Yr estyniad dros dro ar y cyfnod rhybudd cyn troi allan i gael ei ymestyn
Temporary increase in the notice period for eviction to be extended
Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y bydd yr estyniad dros dro yn y cyfnodau rhybudd cyn troi allan, gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn cael ei ymestyn i 31 Mawrth 2021.
Bydd cyfnodau rhybudd mewn perthynas â phob tenantiaeth, a oedd i fod i ddychwelyd i sut roedd pethau cyn Covid ar ôl 30 Medi, yn awr yn gyfnodau chwe mis. Fodd bynnag, os yw'r rheswm dros roi rhybudd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais domestig, y cyfnodau rhybudd cyn Covid fydd yn berthnasol. Bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu ym mis Rhagfyr.
Mae'r estyniad yn rhan o becyn ehangach o fesurau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn tenantiaid a landlordiaid rhag effeithiau'r pandemig. Mae’r rhain yn cynnwys:
- benthyciad newydd â llog isel ar gyfer tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent o ganlyniad i Covid-19, neu sy'n ei chael yn anodd talu ôl-ddyledion o’r fath. Bydd y benthyciad yn cael ei dalu’n uniongyrchol i landlordiaid neu asiantau a chaniateir ei ad-dalu dros gyfnod o hyd at bum mlynedd ar gyfradd llog APR o 1%
- llinell gymorth ar gyfer y sector rhentu preifat sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor ar Bopeth Cymru i denantiaid sy'n cael trafferth gyda rhent, incwm neu fudd-dal tai, i roi cyngor i denantiaid ynghylch ffyrdd y gallant gynyddu eu hincwm i'r eithaf a rheoli’u dyledion – gyda'r bwriad o'u helpu i dalu eu rhent os gallant ac i ddal eu gafael ar eu tenantiaethau.
Wrth annerch y Senedd, dywedodd y Gweinidog:
"Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i gael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd ac mae'n dal i greu heriau mawr i bob un ohonom. Felly, rwyf wedi gweithredu i amddiffyn mwy ar rentwyr drwy ymestyn y cyfnodau rhybudd chwe mis presennol cyn troi allan ac eithrio'r achosion sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig lle byddwn yn dilyn y drefn a oedd yn bodoli cyn Covid.
"Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i amddiffyn rhentwyr ac ar yr un pryd yn lliniaru effeithiau hynny ar landlordiaid ac yn diogelu cymunedau rhag effaith niweidiol ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus. Mewn achosion pan fo ôl-ddyledion rhent wedi cronni oherwydd Covid-19, bydd tenantiaid y sector rhentu preifat yn gallu gwneud cais am fenthyciad cyn bo hir drwy'r cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth pan fydd yn agor ar gyfer ceisiadau ddiwedd y mis hwn.”
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Er bod y newidiadau hyn yn cynnig rhagor o ddiogelwch i denantiaid, dydyn nhw ddim yn esgus i bobl beidio â thalu eu rhent os ydynt yn gallu gwneud hynny, a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae cael sgwrs gynnar gyda landlordiaid i ddarganfod ffordd ymlaen yn hanfodol, ynghyd â chael y cyngor cywir ynghylch dyledion. Dyna pam rydym wedi buddsoddi £1.4 miliwn yn ychwanegol yn ddiweddar mewn gwasanaethau cynghori er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i feithrin gallu i drin arian ac i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt."
Yn ogystal, ni fydd achosion troi allan yn digwydd ar gyfer eiddo mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol mewn grym, a bydd oedi ar achosion troi allan dros gyfnod y Nadolig.