English icon English
MH 140720 Covid-19 40-2

Yr OECD yn cydnabod gweledigaeth glir Cymru ar gyfer ei system addysg a’i dysgwyr mewn adroddiad annibynnol newydd

OECD recognise Wales’s ‘clear vision for its education system and its learners’ in new independent report

Heddiw (dydd Llun 5 Hydref) mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod gan Gymru bellach weledigaeth glir ar gyfer ei system addysg a’i dysgwyr.

Mae’r adroddiad hefyd:

  • yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o ran ymgorffori dull o ddatblygu ar y cyd ar draws y system fel egwyddor ar gyfer datblygu’r cwricwlwm a llunio polisïau addysg yn gyffredinol
  • yn canmol y cyfathrebu gan nodi ei fod wedi bod yn glir ac yn gyson ac yn cynnwys arweinyddiaeth gryf o’r brig
  • yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r heriau a osodwyd mewn adroddiadau blaenorol a’i bod wedi sefydlu cydlyniad i wahanol elfennau’r polisïau ac eglurder o ran y weledigaeth – gan sicrhau bod sail gryf i weithwyr addysg proffesiynol allu gwneud ‘cenhadaeth ein cenedl’ yn rhywbeth sy’n bersonol iddynt.

Wrth siarad ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: "Yn ystod fy amser fel Gweinidog, rydyn ni wedi gwneud llawer o ymdrech i gael mwy o gysylltiad rhyngwladol.

"Rydyn ni am ddysgu o'r goreuon, fel y gallwn ni fod y gorau hefyd, ac mae gweithio gyda’r OECD wedi bod yn hanfodol i'r dull newydd hwn i Gymru.

"Mae'r OECD yn gwybod ac yn deall ein system, a gallan nhw ddal drych i fyny er mwyn inni fel Llywodraeth wella ein hunain. Mae'r adroddiad yn darparu her ddefnyddiol ac yn dilysu'r cynnydd yr ydyn ni’n ei wneud. Hoffwn i ddiolch i bawb sy'n ymwneud â darparu'r adroddiad hwn i ni heddiw."

Yna eglurodd y Gweinidog sut y byddai argymhellion yr adroddiad yn cael eu defnyddio i lywio dyfodol addysg yng Nghymru.

"Y wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar Genhadaeth ein Cenedl," meddai.

"Bydd hyn yn ystyried argymhellion yr OECD, yn adolygu ein hymdrechion a'n cyflawniadau ar y cyd, ac yn mapio cam nesaf y daith.

"Mae ein diwygiadau addysg parhaus, sydd â Chwricwlwm Cymru wrth wraidd iddynt, yn ymdrech genedlaethol a rennir.

"Rwy'n hynod falch o fod yn gweithio gydag athrawon, academyddion, ymarferwyr, busnesau, undebau, yr OECD a nifer o rai eraill sy'n adeiladu'r dyfodol hwn i'n dysgwyr, ein hysgolion a'n cenedl.

"Mae gennym y sylfeini cryf ar waith, a byddwn yn symud ymlaen gyda'n cwricwlwm newydd.

"Cwricwlwm i Gymru, o Gymru, a chan Gymru."

 

Nodiadau i olygyddion

Mae copi o Adroddiad yr OECD ar gael yma