English icon English

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynllun wrth Gefn Porthladd Caergybi

Update on Holyhead Port contingency plan

          Bydd cynlluniau wrth gefn a roddwyd ar waith i ddiogelu porthladd a chymuned Caergybi yn cael eu haddasu'n raddol dros y mis nesaf, yn dilyn cyfnod adolygu a chwblhau safle stacio ar Barc Cybi

Erbyn hyn, gellir stacio 66 o gerbydau ar Barc Cybi os bydd angen a bydd 64 o leoedd eraill yn barod erbyn canol mis Chwefror. 

Bydd gwaith i leihau'r gwrthlif dros dro ar yr A55 yn dechrau ar 31 Ionawr, gan ei leihau o un gyffordd fel ei fod yn rhedeg o Cyff 2 – 3.  Dros y ddwy i dair wythnos nesaf, os na fydd amodau'n newid, caiff ei ddileu'n llwyr.

          Roedd data gwreiddiol gan Lywodraeth y DU yn rhagweld cyfradd wrthod o rhwng 40-70 y cant ar gyfer Cerbydau Nwyddau Trwm nad oedd yn barod ar y ffin.  Hyd yma, mae'r gyfradd honno wedi bod yn 10 y cant neu'n llai, gyda'r mwyafrif llethol o gerbydau â’r gwaith papur cywir. 

          Mae'r cerbydau nwyddau trwm hynny sydd wedi'u gwrthod yn y porthladd wedi'u rheoli'n effeithiol, gan ddefnyddio'r systemau sydd ar waith.

          Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Fel yr dywedais yn glir ar y dechrau, roedd ein cynlluniau wrth gefn ar gyfer Caergybi yn seiliedig ar ragolygon ar nifer y cerbydau nwyddau trwm y gellid eu gwrthod yn y porthladd.  Hyd yma bu’r gyfradd yn llawer is na'r disgwyl a gan fod y safle stacio ym Mharc Cybi bron wedi'i gwblhau byddwn yn dechrau cwtogi'r gwrthlif A55 dros dro.

          "Mae nifer y cerbydau cludo nwyddau yn isel iawn yn y porthladd ar hyn o bryd.  Er ein bod yn disgwyl i lefelau fod yn isel ar ddechrau'r flwyddyn, mae'n destun pryder eu bod yn parhau i fod yn isel.  Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn beth yw eu cynllun i adfer y sefyllfa hon a sut y byddant yn cefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt.  Mae'r sefyllfa hon o ganlyniad uniongyrchol i'r dewisiadau a wnaethant ar sut y gadawsom yr UE.  Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n fanwl iawn.

          "Hoffwn ddiolch i gymuned Caergybi a’r ardal ehangach am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra y bu’r gwrthlif ar waith.  Rwy'n ymwybodol iawn bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd ond hoffwn eu sicrhau ein bod yn gweithio'n galed gydag awdurdod y porthladd, cwmnïau fferi, yr awdurdod lleol ac eraill i wneud yr hyn a allwn i gefnogi'r porthladd sydd o bwysigrwydd strategol i Gymru a'r DU gyfan."