English icon English
WG positive 40mm-2 cropped-2

Yr Ysgrifennydd Addysg yn llongyfarch dysgwyr ar ddiwrnod eu canlyniadau

Education Secretary congratulates learners on results day

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a chymwysterau galwedigaethol y bore yma.

Dywedodd:

"Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i fyfyrwyr ledled Cymru wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau. Dw i'n estyn fy llongyfarchiadau twymgalon i bob myfyriwr, yn ogystal â'n hathrawon a'n staff addysg ymroddedig, y mae eu hymrwymiad a'u hymdrech wedi dod â ni i'r foment hon.

"Mae pob dysgwr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw wedi ennill yr hawl i deimlo balchder aruthrol yn yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni, ac mae'r cyflawniadau hyn yn arddangos penderfyniad rhyfeddol.

"Wrth ichi edrych tua'r dyfodol, p'un a yw hynny'n golygu dechrau prentisiaeth, dechrau cyflogaeth, neu ddechrau astudio yn y brifysgol, dw i'n dymuno 'pob lwc' ichi.

"I'r rhai sy'n ceisio arweiniad o ran eu camau nesaf, mae cymorth yn dal i fod ar gael drwy eich ysgol neu'ch coleg a'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n darparu ystod o opsiynau.

"Fe fydda' i'n parhau i weithio ar godi safonau addysgol a sicrhau bod pob person ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyflawni eu nodau."