Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yn talu teyrnged i swyddogion heddlu a fu farw
Social Justice Secretary pays tribute to fallen police officers
Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt yn Glasgow i dalu teyrnged i heddweision o Gymru ac ar draws y DU sydd wedi'u lladd neu wedi marw ar ddyletswydd.
Mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn ddigwyddiad blynyddol pwysig a gynhelir i gofio'r miloedd o swyddogion ledled y DU sydd wedi colli eu bywydau.
Y llynedd, Caerdydd oedd lleoliad y digwyddiad coffa i gydnabod eu hymrwymiad a'u dewrder.
Bydd adeilad Parc Cathays Llywodraeth Cymru yn cael ei oleuo'n las heno i nodi Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu.
Bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt yn bresennol mewn gwasanaeth yn Glasgow heddiw a chyn mynd, dywedodd: "Bob dydd mae swyddogion heddlu yng Nghymru, ac ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, yn dangos eu hymroddiad i ddyletswydd a'u dewrder er mwyn ein hamddiffyn ni i gyd.
"Bob blwyddyn ers 2004, mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu wedi bod yn ddiwrnod i gofio aberth swyddogion, ar draws y cenedlaethau, yn rhinwedd eu swydd.
"Mae heddiw, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn gyfle pwysig i dalu teyrnged iddyn nhw ac i ddangos ein hymrwymiad na fyddan nhw byth yn cael eu hanghofio.
"Mae'n anrhydedd i mi fod yn Glasgow ar gyfer y digwyddiad eleni i gofio ac anrhydeddu'r swyddogion sydd ddim gyda ni bellach."