English icon English
WG positive 40mm-3

Rhagflas dan embargo: Yr Ysgrifennydd Iechyd newydd yn hyrwyddo arferion da i leihau amseroedd aros

Embargoed trailer: New Health Secretary will champion good practice to drive down waiting times

Mae Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd wedi dweud y bydd yn “hyrwyddo ac yn herio” GIG Cymru wrth i'r data perfformiad diweddaraf gael eu cyhoeddi heddiw.

Bydd Jeremy Miles yn dweud: “Mae'r cyhoedd wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw am weld amseroedd aros yn dod i lawr ac maen nhw eisiau mynediad cyflymach at ofal a thriniaeth.

“Am y tro cyntaf heddiw, bydd adroddiad ystadegol newydd yn cael ei gyhoeddi yn nodi perfformiad byrddau iechyd unigol yn erbyn amryw o fesurau'r GIG. 

“Byddaf yn ymweld â’r ganolfan ragoriaeth canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr heddiw i weld sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwella gofal ar gyfer canser.

“Rwyf am hyrwyddo'r holl waith da y mae'r GIG yn ei wneud yng Nghymru ond byddaf hefyd yn herio sefydliadau i ddysgu o berfformiad da eraill a rhannu arferion da wrth i ni weithio gyda'n gilydd i leihau amseroedd aros.”