‘Ysbrydoliaeth wirioneddol i ni i gyd’ – Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant
‘A total inspiration to us all’ – First Minister announces St David Awards finalists
Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi’r bobl ysbrydoledig sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewi Sant.
Ymhlith teilyngwyr eleni y mae grŵp a wnaeth achub pobl a aeth i drafferthion yn y môr yn Aberdyfi y llynedd; grŵp gwirfoddol a gefnogodd eu cymuned leol drwy gydol pandemig y coronafeirws ac artist y daeth ei ddarlun o weithwyr y GIG yn ddelwedd eiconig y flwyddyn ddiwethaf.
Gwobrau cenedlaethol Cymru yw Gwobrau Dewi Sant, sy’n dathlu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru.
Wrth gyhoeddi’r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant eleni yn grŵp ysbrydoledig o bobl yr ydym yn lwcus i’w cael yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod heriol i lawer ohonom. Mae pandemig y coronafeirws wedi achosi llawer o dristwch a thorcalon – ond mae hefyd wedi ysgogi’r gorau ymhlith llawer o bobl. Mae’r grŵp hwn o bobl o bob cwr o Gymru, yn ysbrydoliaeth wirioneddol i ni i gyd.
“Eleni, rydym wedi ychwanegu categori newydd i ddathlu cyfraniad ein gweithwyr hanfodol. Mae miloedd o bobl wedi gweithio’n ddiflino ac yn anhunanol drwy gydol y pandemig i’n cadw ni fynd yn ystod cyfnod anodd dros ben. Rwyf mor ddiolchgar am bob gweithred o garedigrwydd, boed yn fach neu’n fawr. Ni allem fod wedi ymateb yn y ffordd y gwnaethom hebddynt.”
Categorïau’r gwobrau eleni yw: Dewrder; Busnes; Ysbryd y Gymuned; Diwylliant a Chwaraeon; Gwobr Ddyngarol; Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Person Ifanc; Gweithiwr Hanfodol a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar-lein ddydd Mercher, 24 Mawrth.
Y teilyngwyr yw:
Dewrder
- Alun Edwards, Arwel Jones, Drew Nickless a Josh, Will ac Ollie Brown
Cafodd gwirfoddolwyr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) Arwel, Drew ac Alun gymorth y brodyr Josh, Will ac Ollie pan aeth dau grŵp gwahanol o bobl i drafferthion yn y môr yn Aberdyfi brynhawn Sul yr haf diwethaf. Gwnaeth eu hymateb cyflym achub bywydau saith o bobl.
- Mark Smith, Geoff Handley ac Adam Handley
Achubodd Mark, ynghyd â’r tad a’r mab Geoff ac Adam, fywyd menyw a oedd wedi’i dal ar do ei char ar ôl iddo suddo yn nŵr yr afon yn Nhrefynwy yn ystod llifogydd na welwyd eu tebyg o’r blaen.
- John Rees, Lisa Wray ac Ayette Bounouri
Gwnaeth John, Lisa ac Ayette ymddwyn yn anhunanol a chyda dewrder anhygoel wrth amddiffyn eu hunain ac eraill yn ystod ymosodiad cyllell angheuol yn siop Co-op ym Mhenygraig yn 2020. Yn drasig, collodd John ei fywyd wrth geisio achub bywydau pobl eraill.
Busnes
- Tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol
Ar ddechrau pandemig y Coronafeirws, gwnaeth cynrychiolwyr nifer o wahanol sefydliadau ffurfio tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol i helpu i ddod o hyd i gadwyni cyflenwi cadarn ar gyfer eitemau i’r sector iechyd a gofal, megis feisorau, masgiau wyneb, sgrybs, gynau a hylif diheintio. Gwnaethant hefyd hyrwyddo arloesedd ym maes dyfeisiau meddygol.
- The Blaenafon Cheddar Ltd (Charlotte Hill)
Yn ystod y pandemig, mae’r teulu Hill wedi gweithio'n agos gyda busnesau lleol eraill i greu siop ar-lein a oedd yn hyrwyddo ac yn gwerthu cynnyrch lleol.
- Little Inspirations Ltd
Cwmni o dde Cymru sy'n darparu gwasanaethau gofal plant yw Little Inspirations. Yn ystod y pandemig, gwnaethant aros ar agor a chydweithio â saith awdurdod lleol i ddarparu gofal plant i weithwyr hanfodol a theuluoedd sy'n agored i niwed.
Ysbryd y Gymuned
- Elizabeth (Buffy) Williams a Chanolfan Pentre
Grŵp gwirfoddol yw'r Ganolfan sy'n gweithredu yn y Rhondda Fawr o dan arweiniad Buffy. Yn ystod 2020, fe wnaethant gydlynu cymorth i ddioddefwyr llifogydd y gaeaf ac ymateb i bandemig COVID-19 drwy ddarparu pecynnau cinio dyddiol, bagiau ymwybyddiaeth ofalgar i blant a dosbarthu pecynnau gofal i'r gymuned.
- Gwasanaeth Deial i Deithio Sir Ddinbych
Mae'r gwasanaeth gwirfoddol hwn yn darparu cludiant o ddrws i ddrws i'r rhai yn y gymuned sydd ag anabledd, nam neu'r rhai na allant ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ystod y pandemig, mae'r gwasanaeth wedi bod yn wirioneddol allweddol i lawer yn y gymuned gyda gwirfoddolwyr hefyd yn darparu presgripsiynau ac yn gwneud y siopa dros bobl.
- Dr Mahaboob Basha
Mae Dr Basha yn eiriolwr hirdymor dros y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ymgyrchydd cymunedol ac yn wirfoddolwr banc bwyd. Yn ystod y pandemig, dosbarthodd dros 1400 o bresgripsiynau a pharseli bwyd i'r rhai mewn angen. Helpodd deuluoedd mewn profedigaeth hefyd i gynllunio angladdau yn ystod yr argyfwng.
Gweithiwr Hanfodol
- Cartref Gofal Cherry Tree
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gadawodd naw aelod o staff yng nghartref gofal Cherry Tree eu teuluoedd am chwe wythnos i symud i mewn gyda'r preswylwyr yn y cartref gofal yng Nghoed-poeth, yn y Gogledd. Aeth y gofalwyr y filltir ychwanegol i ddiogelu eraill, gan aberthu eu hamser gyda'u teuluoedd eu hunain i roi sicrwydd i'r rhai o dan eu gofal ac i leihau'r risg o haint.
- Matthew’s House
Mae'r elusen yn cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned drwy ddarparu prydau bwyd, cawodydd, golchdy a phecynnau urddas. Yn ystod y pandemig, sefydlodd yr elusen ymgyrch o'r enw Swansea Together gan ddod â dros 50 o elusennau, busnesau a gwirfoddolwyr lleol at ei gilydd, gan ddosbarthu dros 18,000 o brydau poeth i bobl mewn llety dros dro.
- Trudy Fisher
Cydlynydd prosiect Gofalwyr Ifanc Rhondda Cynon Taf yw Trudy. Bu’n gweithio'n galed i gefnogi gofalwyr ifanc a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod clo – gan gynnwys trefnu grantiau ar gyfer trydan a bwyd. Dosbarthodd Trudy wyau Pasg i'r plant, trefnodd sesiynau Zoom wythnosol i helpu gyda'u hiechyd meddwl a threfnodd anrhegion Nadolig a thalebau bwyd.
Diwylliant a Chwaraeon
- Delwyn Derrick
Delwyn yw sylfaenydd Clwb Pêl-droed Bellevue yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sef clwb pêl-droed aml-ethnig sy'n canolbwyntio ar gynhwysiant. Mae Delwyn yn defnyddio chwaraeon i ddod â phobl o gefndiroedd amrywiol at ei gilydd, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a'r bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu.
- Kate Woolveridge, Forget Me Not Chorus
Y gantores opera Kate yw sylfaenydd yr elusen, “Forget Me Not Chorus”, Caerdydd, sef côr i bobl â Dementia a'u gofalwyr. Erbyn hyn mae gan yr elusen 11 côr ledled Cymru - yn y gymuned, mewn cartrefi gofal ac mewn ysbyty. Yn ystod y pandemig, gwnaeth Kate yn siŵr nad oedd aelodau’r côr yn teimlo’n ynysig drwy gynnal cyngherddau mewn meysydd parcio/gerddi cartrefi gofal yn ogystal â threfnu sesiynau Zoom.
- Nathan Wyburn
Yn ystod y pandemig, gwnaeth yr artist Nathan Wyburn greu portread o nyrs mewn cyfarpar diogelu personol llawn gan ddefnyddio delweddau bach iawn o weithwyr gofal iechyd. Yn gyflym iawn, daeth y darlun eiconig hwn yn ddelwedd y mae llawer o bobl yn ei chysylltu fwyaf â'r cyfnod hwn. Rhoddwyd y ddelwedd ar gredydau agoriadol y sioe deledu boblogaidd This Morning a hefyd Good Morning America a The Today Show yn Awstralia.
Gwobr Ddyngarol
- Angharad Paget Jones
Mae Angharad, ymgyrchydd hawliau anabledd o Bort Talbot, wedi defnyddio ei phrofiad ei hun o fyw gyda cholled golwg difrifol i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu'r rhai sydd â nam ar eu golwg. Mae'n gweithio gyda phedwar heddlu Cymru i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb anabledd yn dilyn camdriniaeth a wynebodd yn ystod y cyfnod clo coronafeirws cyntaf.
- Hazel Lim
Hazel yw sylfaenydd Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd. Yn dilyn diagnosis ei mab gydag Awtistiaeth, gwyddai Hazel fod Awtistiaeth yn bwnc tabŵ a bod ganddo stigma enfawr yn y diwylliant Tsieineaidd. Mae Hazel yn brwydro i newid y canfyddiad hwnnw ac mae'n ymgyrchu i roi cymorth i blant a'u teuluoedd sydd ei angen.
- John Puzey
Mae John wedi bod yn Gyfarwyddwr Shelter Cymru ac yn ymgyrchydd tai blaenllaw ers dros 30 mlynedd. Mae wedi goruchwylio twf a datblygiad yr elusen i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau cyngor ar dai yn ogystal â chodi ei phroffil ymgyrchu a pholisi. O dan ei arweiniad, ymatebodd Shelter Cymru yn gyflym i argyfwng COVID-19, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau wedi parhau ar waith a bod pob ffynhonnell cyllid brys wedi'i sicrhau.
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Prosiect Hylif Diheintio Dwylo
Roedd prinder hylif diheintio dwylo ar ddechrau'r pandemig, oherwydd cynnydd o ran y galw. Daeth tîm ym Mhrifysgol Abertawe at ei gilydd i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a fyddai’n cyrraedd safonau Sefydliad Iechyd y Byd. Ers hynny mae’r tîm wedi cynhyrchu 34,000 litr sydd wedi'i ddosbarthu i fwy na 100 o sefydliadau.
- Y Fenter Ymchwil Busnesau Bach ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ysgogwyd y cydweithio hwn rhwng Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar ddechrau'r pandemig pan oedd angen brys i gyflymu amseroedd glanhau ambiwlansys. Mae'r cydweithio wedi arwain at leihad enfawr yn yr amser a gymerir i lanhau ambiwlansys.
- Her Peiriannau Anadlu Cymru
Daeth gweithwyr o Siemens ac Airbus at ei gilydd ym mis Mawrth 2020 yn y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC Cymru) ym Mrychdyn i drawsnewid y cyfleuster yn llinell gydosod i gynhyrchu peiriannau anadlu meddygol ar raddfa ddigynsail. Diolch i'r cydweithio hwn, dosbarthwyd cyfanswm o 13,437 o beiriannau anadlu i'r GIG.
Person Ifanc
- Casey-Jane Bishop
Mae Casey-Jane yn 16 oed o Gymoedd y De ac yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Mae Casey-Jane wedi ymgyrchu yn erbyn bwlio yn dilyn blynyddoedd o fwlio yn yr ysgol ac wedi dod yn Llysgennad Ifanc i'r elusen, Bullies Out.
- Ethan Hutchings
Helpodd Ethan, sy'n 12 oed, i achub dyn rhag boddi yn yr afon yng Nghwmafan, Castell-nedd Port Talbot, yn ystod yr haf. Ar ôl dod ag ef i’r lan yn ddiogel, helpodd Ethan i roi adfywiad cardio-pwlmonaidd i’r dyn nes i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Mae Ethan hefyd yn dioddef o ganser y thyroid ac roedd wedi bod yn gwarchod ei hun am 12 wythnos cyn y digwyddiad.
- Molly Fenton – Ymgyrch Love Your Period
Mae Molly yn 18 oed o Gaerdydd a sefydlodd ymgyrch Love Your Period gyda'i chwaer Tilly (12) i roi terfyn ar dlodi a stigma mislif i ddisgyblion ysgol ledled Cymru. Bellach mae hi’n cynnig cyngor i ysgolion a Llywodraeth Cymru yn ogystal â Chyngor Caerdydd. Bu’n siarad mewn digwyddiadau ledled y DU i godi ymwybyddiaeth o'r stigma a hyrwyddo urddas mislif.