English icon English
Ysgol Gymraeg Caerffili staff and learners-2

Ysgol Caerffili yn dangos effaith cymorth presenoldeb wedi'i dargedu

Caerphilly school shows impact of targeted attendance support

Mae Ysgol Gymraeg Caerffili yn cyflawni cyfradd bresenoldeb uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru yn gyson ac, ym mis Medi 2025, cyflawnodd gyfradd bresenoldeb o 98.2%.

Mae amrywiaeth o resymau neu achosion sylfaenol dros absenoldeb dysgwr. Mae perthynas effeithiol rhwng ysgolion a theuluoedd yn hanfodol ac, i gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £7 miliwn eleni i helpu plant i ailymgysylltu â'r ysgol.

Mae'r pecyn cyllido hwn yn cynnwys £3 miliwn ychwanegol ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd, £2 filiwn ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, £1 miliwn i ymgorffori rôl Ysgolion Bro ymhellach, a £1 miliwn ar gyfer Bwyd a Hwyl sef ein Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf.

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Ysgol Gymraeg Caerffili, Eleri Jones:

"Rydym yn defnyddio dull ysgol gyfan i wella a chynnal presenoldeb, sydd wedi'i wreiddio yn y berthynas rydym yn ei hadeiladu gyda disgyblion, staff a theuluoedd. 

"Mae pob aelod o staff, gan gynnwys ein Clerc Ysgol a'n Swyddog Iechyd a Lles, sy'n cyflawni rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd, yn gweithio'n agos gyda theuluoedd, ac rydym yn cyfathrebu unrhyw bryderon mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol. Mae hyn yn sicrhau profiad gwirioneddol holistaidd i'n dysgwyr.

"Mae'n rhaid i'r ysgol fod yn lle y mae disgyblion eisiau ei fynychu – a diolch i'n haddysgu rhagorol a'r profiadau cyfoethog rydym yn eu darparu, rydym yn gallu cynnig hynny.

"Rydym yn falch bod ein ethos wedi arwain at bresenoldeb eithriadol. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad ein disgyblion, ein teuluoedd a'n staff, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i'r addysg y mae’n ei haeddu, mae'n rhaid i ni barhau i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal dysgwyr rhag mynychu'r ysgol. Mae'r ysgol hon yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn cyfuno cefnogaeth wedi'i dargedu gydag ymgysylltiad cryf â'r teulu a'r gymuned ehangach.

"Rwyf am ddiolch i holl staff a theuluoedd yr ysgol am weithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn. Mae eu gwaith a'u hymrwymiad yn dangos sut mae gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd a chael cyfathrebu agored a chlir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol."

Mater i awdurdodau lleol ac ysgolion yw nodi sut i flaenoriaethu a defnyddio eu cyllid ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd.