Ysgolion yng Nghymru yn elwa o brosiect gwrth-hiliol wrth i’r gynllun gael ei adnewyddu
Anti-racist project benefiting schools in Wales as plan refresh announced
Mae prosiect sy'n helpu ysgolion i addysgu dysgwyr am sut i herio hiliaeth yn chwarae rhan allweddol yn nod Llywodraeth Cymru i greu cenedl wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd yn un o'r ysgolion sy'n rhan o brosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL), sy'n elfen allweddol o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Lansiwyd camau i adnewyddu'r cynllun yn gynharach yr wythnos hon.
Mae DARPL wedi darparu adnoddau, sesiynau dysgu proffesiynol ac arweiniad i filoedd o addysgwyr ledled Cymru, sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed wedi elwa o'r prosiect, ac mae athrawon a dysgwyr wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o hiliaeth a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ysgol wrth-hiliol.
Mae'r ysgol wedi cyflwyno archwiliad dan arweiniad disgyblion sy'n cynnwys cynllun gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth. Er mwyn cefnogi'r wythnos wrth-hiliaeth, mae'r ysgol wedi annog gweithgarwch ar draws pob maes pwnc, gan gynnwys blasu bwyd a sesiynau pwrpasol.
Lansiwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i fynd i'r afael â hiliaeth systemig ac anghydraddoldebau hiliol yng Nghymru, a'u diddymu.
Mae'r Cynllun wedi cyflawni sawl carreg filltir allweddol ers ei lansio, ac mae ehangu prosiect DARPL wedi bod yn hanfodol i hynny.
Mae'r cynllun diwygiedig yn adlewyrchu'r cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'n mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau neu heriau a wynebwyd, ac mae wedi ei lywio gan adborth gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol am y materion sy'n effeithio arnyn nhw.
Mae'r fersiwn newydd hefyd yn cyflwyno sawl newid, gan gynnwys camau gweithredu ac amserlenni newydd, a rolau ychwanegol i bartneriaid arwain a gweithredu. Mae'r bennod ar arweinyddiaeth, er enghraifft, wedi ei chryfhau'n sylweddol i bwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth wrth-hiliol. Mae mwy o ffocws hefyd ar fynd i'r afael ag anghenion penodol grwpiau fel Sipsiwn, Roma, a Theithwyr.
Dywedodd dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, sy'n arwain ar fenter DARPL, Abigail Williams: "Fel ysgol, rydyn ni wedi datblygu dealltwriaeth o hiliaeth sefydliadol a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ysgol wrth-hiliol. Rydyn ni'n creu lleoliad gwirioneddol wrth-hiliol lle mae dysgwyr yn teimlo'n ddiogel i rannu, lle mae ganddyn nhw'r hyder y bydd pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu credu, fel bod eu profiad o fywyd bob dydd yn un gwell."
Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: "Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol beiddgar ac uchelgeisiol yn nodi ein hymrwymiad fel llywodraeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb systemig a strwythurol o ran hil, a chymryd camau gwrth-hiliol pendant.
"Rydyn ni wedi gwneud cynnydd mewn sawl maes ers lansio'r cynllun yn 2022, ac mae'r prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth yn enghraifft wych o hyn, ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod gyda ni ffordd bell i fynd er mwyn cyflawni ein hamcanion.
"Mae anghydraddoldeb a hiliaeth yn parhau i gael eu teimlo'n ddwfn iawn gan gymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru. Gwyddom fod llawer o achosion o gasineb hiliol a bygythiadau wedi eu gweld yn dilyn yr anhrefn treisgar diweddar yn Lloegr a'r gwrthdaro sy'n parhau yn y Dwyrain Canol. Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gofyn, felly, am sicrwydd ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i Gymru wrth-hiliol, ac y byddan nhw'n gweld gwelliannau yn eu bywydau bob dydd. Mae'r cynllun diwygiedig yn rhan bwysig o ddarparu'r sicrwydd hwn.
"Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae gan bawb, ledled Cymru, rôl bwysig i'w chwarae. Drwy weithio gyda'n gilydd, fe allwn ni ymgorffori gwrth-hiliaeth ym mhopeth a wnawn, i greu Cymru wirioneddol wrth-hiliol, Cymru y gallwn ni i gyd fod yn falch o fod yn perthyn iddi, a lle gall pawb ohonon ni ffynnu."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi profi troseddau casineb, gallwch roi gwybod i'r heddlu neu i Ganolfan Gymorth Casineb Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr. Ffoniwch 0300 3031 982 neu anfonwch e-bost i hate.crimewales@victimsupport.org.uk
Gallwch ddod o hyd i'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol diwygiedig yn: www.llyw.cymru/cymru-wrth-hiliol