English icon English

Ysgrifennydd Newydd y Cabinet ar yr ymweliad cyntaf â physgotwyr

New Cabinet Secretary casts a wide net on first visit with fishers

Yn ddiweddar, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies â physgotwyr lleol yn Ardal Forol Abertawe.

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet gipolwg ar bysgodfeydd lleol ym Mae Abertawe a Rhanbarth De Cymru wrth iddo gyfarfod â Barry Thomas, Abertawe a Chyfarwyddwr Cymunedau Pysgota De Cymru a'r Gorllewin; Jim Evans, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA); a Kevin Denman, Cyfarwyddwr Cymunedau De Cymru a'r Gorllewin, a'r WFA.

Roedd yn gyfle i drafod amrywiaeth o bynciau gan gynnwys yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector.

Dywedodd Ysgrifennydd newydd y Cabinet: "Wrth i mi ddechrau'r rôl newydd hon, mae'n bwysig iawn i mi gyfarfod a gwrando ar brofiadau a syniadau'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant.

"Bu hwn yn gyfle gwych i weld gweithgareddau pysgota Cymru a chlywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n gweithio yn y sector a deall y problemau'n well - ac i glywed mwy am eu syniadau a chyfleoedd i'r sector." 

 

Nodiadau i olygyddion

YN Y LLUNIAU

Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies gyda Barry Thomas, Cyfarwyddwr Cymunedau Pysgota De Cymru a'r Gorllewin; Jim Evans, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA); a Kevin Denman, Porth Tywyn a Chyfarwyddwr Cymunedau De Cymru a'r Gorllewin, a'r WFA.