English icon English

Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i ymladd caethwasiaeth fodern

Cabinet Secretary committed to fighting modern slavery

Ar Ddiwrnod Gwrth-gaethwasiaeth (dydd Gwener 18 Hydref), mae'r Ysgrifennydd dros Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi datgan, unwaith eto, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i oresgyn heriau aruthrol caethwasiaeth fodern.

Y llynedd, nododd sefydliadau ymatebwyr cyntaf yng Nghymru dros 500 o bobl fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern a'u cyfeirio am gymorth.

Roedd plant ac oedolion yn destun camfanteisio troseddol, camfanteisio ar lafur, chamfanteisio rhywiol a chaethwasiaeth ddomestig. Cafodd rhai eu masnachu o drefi a dinasoedd eraill yng Nghymru a'r DU, a chafodd rhai eu masnachu o rannau eraill o'r byd.

Yr wythnos hon, cynhaliwyd cynhadledd Gwrth-gaethwasiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth lle daeth pobl ynghyd i ddysgu mwy am gaethwasiaeth fodern ac i rannu gwybodaeth ac arbenigedd.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn dweud bod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac amddiffyn pobl sydd mewn perygl o gamfanteisio.

Dywedodd Jane Hutt: "Amlygodd y gynhadledd Gwrth-gaethwasiaeth yr heriau aruthrol sy'n ein hwynebu wrth oresgyn caethwasiaeth fodern yng Nghymru ac ni allwn anwybyddu graddau'r mater hwn.

"Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU, llywodraethau a sefydliadau datganoledig eraill ar draws pob sector i fynd i'r afael â heriau caethwasiaeth fodern.

"Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud hyd yn oed mwy o gynnydd o ran amddiffyn pobl a chefnogi unigolion sydd wedi cael eu masnachu. Gallwn hefyd barhau i erlyn y troseddwyr sy'n gyfrifol am gyflawni'r drosedd ofnadwy hon a gweithio i nodi a lliniaru risgiau camfanteisio ar lafur mewn gweithgareddau busnes a chadwyni cyflenwi.

"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae a gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth."