English icon English
Huw Irranca-davies farm-2

Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau'r gefnogaeth fydd ar gael i ffermwyr yn 2025

Cabinet Secretary confirms support available for farmers in 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau heddiw (dydd Mercher, 17 Gorffennaf) y cynlluniau fydd ar gael i gefnogi ffermwyr a pherchenogion tir cyn cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn 2026

Ym mis Mai, cyhoeddwyd amserlen newydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ar ffermwyr a chymunedau gwledig.

Bydd y cynllun nawr yn dechrau yn 2026, gan roi mwy o amser I siarad a thrafod gyda prif bartneriaid.

Gan siarad ar drothwy'r Sioe Fawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd 'cyfnod paratoi' 2025 yn cynnwys nifer o gynlluniau i roi cyngor a help i ffermwyr cyn cyflwyno'r SFS.

Ymhlith y Cynlluniau hynny y mae:

  1. Cynllun Cynefin Cymru - yn cael ei gynnig yn 2025 a bydd pob ffermwr cymwys yn cael gwneud cais.
  2. Cytundebau Tir Comin presennol Cynllun Cynefin Cymru - yn gallu cael eu hestyn ar gyfer 2025.
  3. Y Taliad Cymorth Organig - yn cael ei gadw ar gyfer 2025.
  4. Cyswllt Ffermio - yn cael ei estyn hyd at 2026, gan gadw'r cymorth i helpu ffermwyr i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesiffermydd.
  5. Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd - yn cael ei greu i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr i gael hyd i atebion sy'n seiliedig ar natur ar draws tirwedd, dalgylch neu ar raddfa gyfan Cymru.  Bydd yn parhau'n bont i ffordd newydd o gefnogi ffermwyr a'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud cyn cyflwyno Gweithredoedd Cydweithredol yr SFS.

Yn ogystal â'r pum cynllun hyn, bydd ymarfer cadarnhau data yn cael ei lansio.  Gydag adborth gan y ffermwyr sy'n penderfynu cymryd rhan bydd yr ymarfer yn rhoi darlun cywirach o'r tir cynefin a'r gorchudd coed a welir ar ffermydd. Bydd hyn yn help i baratoi ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru (CCC) 2025 a chyflwyno'r SFS.

Os ydy ffermwyr am wneud cais am CCC 2025, maent yn cael eu hannog i gwblhau'r ymarfer cadarnhau data. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies: "Bwriad cyhoeddi'r cynlluniau hyn yw rhoi sicrwydd i ffermwyr y bydd yna gymorth iddyn nhw yn y cyfnod cyn 2026.

"Rydyn ni'n cydnabod hefyd y bydd y newid o'r BPS yn golygu newid mawr i lawer o ffermwyr, ac felly rydyn ni am helpu, tywys a chynnal ffermwyr Cymru dros gyfnod o flynyddoedd wrth i ni gwblhau a symud tuag at yr SFS.”

"Byddwn yn dal i wrando ar y sector a chydweithio â hi. Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle bydd ein ffermwyr yn cynhyrchu'r bwyd gorau at y safonau uchaf, ac yn diogelu yr un pryd ein hamgylchedd gwerthfawr ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda ffermwyr a pherchenogion tir trwy Ford Gron Gweinidogol i lunio'r Cynllun terfynol a rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl. Gan ddibynnu ar faint o arian fydd ar gael, byddwn yn cadarnhau cynlluniau cymorth ychwanegol 2025 yn ddiweddarach eleni.

"Rydyn ni am weld diwydiant ffermio cynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a'r iaith Gymraeg - cynaliadwy ym mhob ystyr y gair."

Nodiadau i olygyddion

Rhagor o fanylion am y Cynlluniau Paratoi:

  • Cynllun Cynefin Cymru (CCC) 2025: Bydd cyfle newydd i ffermwyr wneud cais am CCC i'w helpu i reoli tir cynefin rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025. Mae'r cynllun hwn ar gael i bob ffermwr cymwys, waeth a oedd ganddo gysylltiad â Glastir neu CCC 2024. Gwneir cais amdano ar Ffurflen Gais Sengl (SAF) 2025. Mae rheoli tir cynefin yn rhan bwysig iawn o'r SFS; Er nad ydyn ni wedi cadarnhau manylion terfynol y Cynllun eto, bydd cyfle arall yn 2025 i ffermwyr gael eu talu am wneud gwaith rheoli ar dir cynefin.
  • Bydd yr ymarfer Cadarnhau Data yn bwysig wrth baratoi ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru 2025 a'r SFS: Nod yr ymarfer hwn yw cadarnhau faint o dir fferm yng Nghymru sy'n gynefin ac sydd o dan ganopi o goed a choetir. Bydd y ffurflen Cadarnhau Data ar gael trwy RPW Ar-lein rhwng 22 Gorffennaf a 6 Rhagfyr 2024. Mae cymryd rhan yn fater gwirfoddol a bydd yn gyfle i ffermwyr edrych eto ar eu mapiau a'u data sylfaenol cyn cadarnhau'r manylion pwysig hyn ar eu ffermydd unigol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio fel sail ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru 2025 ac yn ein helpu i lunio'r SFS yn 2026. Bydd ffermwyr yn cael cyfle arall i newid y manylion cyn i'r SFS ddechrau.
  • Rheoli tir cynefin – Tir Comin: Ar gyfer 2025 cynigir cadw at y drefn hon, sef dim ond tir comin gafodd grant CCC 2024 sy'n cael gwneud cais am grant yn 2025. Ni fydd modd cynnig cymorth ar gyfer tir comin sydd ddim eisoes yn cael cymorth ar hyn o bryd. Er mwyn gallu rhoi cymorth i dir comin newydd, rhaid sefydlu cymdeithas bori, cynnal y cyfraddau stocio sylfaen a chael y caniatâd priodol ar gyfer unrhyw safleoedd dynodedig. Ni fyddai'n bosibl gwneud hynny o fewn yr amser sydd ar gael, ond fe fydd yn bosib cael cymorth trwy'r SFS.
  • Cymorth Organig 2025: Byddwn yn cynnig rownd ymgeisio newydd o'r Taliad Cymorth Organig. Defnyddiwch Ffurflen Gais Sengl (SAF) 2025 i wneud cais. Bydd cymorth ar gael ar gyfer tir amaethyddol organig sydd wedi'i ardystio'n llawn rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2025. Ar gyfer 2025, bydd tir ychwanegol, a oedd gynt o dan Gynllun Trosi Organig 2022, bellach yn gymwys ar ôl cael ei droi'n dir gwbl organig ar 1 Ionawr 2025 (2,970 ha ychwanegol).
  • Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS): Bydd y ffenestr ar gyfer gwneud cais am y cyfnod datblygu yn agor yn ail hanner mis Awst.  Mae grwpiau neu bartneriaethau hen neu newydd yn cael gwneud cais, cyn belled â bod ffermwyr yn aelodau ohonyn nhw. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael grant i ddatblygu cynlluniau cynnal prosiectau. Bydd partneriaethau llwyddiannus sydd â chynlluniau datblygu wedi'u cymeradwyo yn derbyn cytundeb aml-flynyddol i gynnal y prosiect yn y dyfodol. Mae INRS yn ategu'r SFS sy'n cael ei gynnig, a bydd yn cael ei ddefnyddio i lywio elfen Gydweithredol ar lefel tirwedd y cynllun hwn. Mae'n gynllun paratoi i helpu'r diwydiant amaethyddol yn y cyfnod pontio hwn.  Bydd INRS yn cefnogi amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a ddisgrifir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Bydd ffocws neu thema i'r prosiect. Rhaid i'r ffocws hwn fod yn gysylltiedig â her neu heriau cenedlaethol neu leol.
  • Estyn contract Cyswllt Ffermio: Cafodd Cyswllt Ffermio ei ddatblygu i helpu i greu diwydiant ffermio a sector tir mwy proffesiynol, proffidiol a gwydn, ac mae'n cynnig rhaglen integredig o drosglwyddo gwybodaeth, hyfforddiant achrededig a gwasanaeth cynghori i helpu ffermwyr i fod yn fwy cynaliadwy a mwy cystadleuol ac i wella eu perfformiad amgylcheddol. Mae'n wasanaeth uchel ei barch eisoes. Mae dros 12,000 o fusnesau wedi'u cofrestru gyda'r rhaglen, gan gynnwys dros 29,500 o unigolion.  Bydd estyn y contractau i'r  gwasanaethau presennol yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael parhau ac yn helpu i gyflwyno'r SFS yn 2026. 
  • Mae hefyd yn fwriad i barhau i gefnogi cynllunio a chreu coetiroedd drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir a'r Grant Creu Coetiroedd yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael.