Gweinidog Cabinet yn croesawu 480 o swyddi newydd Airbus ym Mrychdyn.
Cabinet Minister welcomes announcement of 480 jobs at Airbus Broughton site
Mae'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, wedi croesawu cyhoeddiad heddiw o 480 o swyddi newydd ar safle Airbus ym Mrychdyn.
Dywedodd Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
“Mae cyhoeddiad heddiw o 480 o swyddi newydd, gyda rhagor i ddilyn y flwyddyn nesaf, yn newyddion gwych i Ogledd Cymru ac yn dangos ymrwymiad hirdymor Airbus i Gymru.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi cefnogaeth gref i’n huchelgais i dyfu gweithgynhyrchu uwch ac ail-ddiwydiannu Cymru.”