Ystad Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r targedau amgylcheddol uchaf erioed
Welsh Government estate achieves record environmental targets
Heddiw [dydd Mercher, 13 Tachwedd], caiff 11eg adroddiad blynyddol Cyflwr yr Ystad ei gyhoeddi sy’n nodi bod perfformiad amgylcheddol ystad weinyddol Llywodraeth Cymru yn rhagori ar y disgwyliadau.
Mae’r adroddiad yn amlinellu pa mor effeithiol fu ein hystad weinyddol yn ystod 2018-19. Er gwaetha’r cyfyngiadau gwirioneddol o ganlyniad i gyni a chyllidebau cyfyngedig, mae'r ystad wedi perfformio’n dda.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld gostyngiad o 3% yng nghostau cynnal yr ystad, gan arwain at arbed dros hanner miliwn o bunnoedd. Rydyn ni hefyd wedi gwneud cynnydd da o ran ein targedau gwastraff gydag 88% yn cael ei ailgylchu, 11% yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni a llai nag 1% yn cael ei anfon i safle tirlenwi.
Gwelwyd hefyd gynnydd sylweddol wrth fynd ati i leihau ein hallyriadau carbon. Ers ein gwaelodlin (2010-11) rydyn ni wedi gweld gostyngiad o 66% yn ein hallyriadau CO2 – gan fwy na dyblu ein targed disgwyliedig o 30%.
Wrth wneud sylw ar y ffigurau diweddaraf, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Rwy’n falch ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau effaith swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd. Rydyn ni’n gwneud hynny wrth gynnal ystad wasgaredig sy’n darparu swyddi yn lleol ac yn cyfrannu at weithgarwch economaidd ar draws ein cymunedau.
“Mae adleoli i swyddfeydd modern a buddsoddi yn ein hystad bresennol wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Ond er mwyn parhau i arbed mae’n rhaid inni gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus i sicrhau ein bod yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i ni yn y ffordd orau bosibl er mwyn pobl Cymru.”