English icon English

Ystadegau newydd yn dangos bod lefelau ailgylchu yng Nghymru wedi codi unwaith eto

New stats show another increase in recycling in Wales

Mae lefelau ailgylchu wedi codi unwaith eto wrth i Gymru barhau ar ei thaith tuag at fod yn genedl ddiwastraff.

Mae ffigurau gwastraff trefol awdurdodau lleol a gafodd eu cyhoeddi heddiw, dydd Iau 29 Ionawr, yn dangos bod y gyfradd ailgylchu wedi cynyddu o 66.6% yn 2023–24 i 68.4% yn 2024–25 – mae hyn yn trawsnewidiad llwyr o'i gymharu â thua 5% cyn datganoli.

Yr ystadegau heddiw yw'r data blynyddol cyntaf i gael ei gyhoeddi ers i fesurau ailgylchu newydd yn y gweithle gael eu cyflwyno yng Nghymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob busnes, gweithle a chasglwr yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gadw deunyddiau ailgylchadwy allweddol ar wahân.

Ers hynny, mae 8,187 tunnell ychwanegol o ddeunydd ailgylchadwy wedi cael eu casglu o weithleoedd gan awdurdodau lleol – cynnydd o 42% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae gwastraff gweddilliol a gesglir o weithleoedd hefyd wedi gostwng 15.8%.

Mae hyn yn golygu bod miloedd o dunelli o ddeunyddiau ailgylchadwy gwerthfawr ychwanegol yn cael eu bwydo yn ôl i'r economi yn hytrach na chael eu llosgi neu eu hanfon at safleoedd tirlenwi.

Dim ond 0.7% o wastraff a gafodd ei anfon at safleoedd tirlenwi yn 2024 i 2025 – gostyngiad enfawr ar y 95% a anfonwyd cyn datganoli.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

"Rydyn ni'n parhau i adeiladu ar lefelau ailgylchu Cymru sydd eisoes o'r radd flaenaf. Mae hyn yn dangos y newid enfawr mewn agweddau dros y degawdau diwethaf – mae ailgylchu bellach yn rhan o hunaniaeth ein cenedl.

"Rydyn ni wedi cefnogi ein hymrwymiad â buddsoddiadau gwerth £1bn ers datganoli, sydd wedi arwain at gynnydd aruthrol mewn cyfraddau ailgylchu ers hynny.

"Rwy'n falch o bawb yng Nghymru sydd wedi chwarae eu rhan er mwyn cyrraedd lle rydyn ni heddiw – yn ein cartrefi a nawr yn ein gweithleoedd hefyd. Diolch am ymuno â'r gydymdrech hon."

Mae Cymru yn ail yn y byd o ran ailgylchu, o flaen y DU ac ychydig y tu ôl i Awstria yn y safleoedd byd-eang a gyhoeddwyd gan Eunomia Research and Consulting a Reloop yn 2024.

Mae dros hanner awdurdodau lleol Cymru wedi cyrraedd targed statudol 2024 i 2025 o 70% o'r gwastraff yn cael ei ailgylchu, a nododd dros 90% gynnydd yn eu cyfradd ailgylchu o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:

"Mae ein hanes ailgylchu yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo wrth inni barhau i gymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur a thyfu'r economi werdd.

"Ond does dim lle i laesu dwylo.

"Mae bod yn rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu o fewn ein gafael ni os ydyn ni'n cadw'r momentwm."