Academi Pobol - menter hyfforddi yn llwyddiant
A Pobol-ular Academy - training initiative hailed a success
Mae menter sgiliau a thalent Cymraeg sy'n uwchsgilio'r genhedlaeth nesaf o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant teledu drwy hyfforddiant ar set Pobol y Cwm, Cynhyrchiad Drama Stiwdios y BBC, wedi cael ei chanmol gan y Gweinidog dros y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant.
Mae Academi Pobol y Cwm, a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gynharach yn y flwyddyn, yn fenter gan y Siop Un Stop | One Stop Shop, fydd yn rhoi llwybr clir, cydlynnol a thryloyw i unigolion creadigol ddechrau neu ddatblygu o fewn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Yn bartneriaeth o ddarparwyr Hyfforddiant yng Nghymru, addysgwyr pellach ac uwch a sefydliadau’r diwydiant, Siop Un Stop / One Stop Shop yw Clwstwr Sgiliau BFI Cymru - dan arweiniad Sgil Cymru - gyda chefnogaeth BFI, BBC Studios a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog dros y Diwydiannau Creadigol, Jack Sargeant, â'r garfan ddiweddaraf o hyfforddeion yn ystod diwrnod prysur o weithio ar set yr opera sebon Pobol y Cwm, a ddathlodd 50 mlynedd ar yr awyr yn ddiweddar.
Yn ystod ei ymweliad, dywedodd y Gweinidog:
"Mae'n wych ymweld â BBC Studios ac Academi Pobol y Cwm i weld y ffordd wirioneddol arloesol hon o ddysgu sgiliau newydd i bobl sy'n ymuno â'r diwydiant am y tro cyntaf, a gwella sgiliau eraill mewn amgylchedd byw, ac mewn sector creadigol sy'n tyfu yng Nghymru.
"Mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r sector sgrin, ac mae'r cynllun hyfforddi hwn yn enghraifft wych o hynny.
"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o ddarparu £300,000 o gyllid dros ddwy flynedd tuag at Glwstwr Sgiliau BFI Cymru, gan sicrhau dull cydlynol o hyfforddi i'r rhai sy'n bwriadu ymuno â'r sector yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn gweithio ynddo."
Cynhaliwyd Academi Pobol, menter dan arweiniad BBC Studios, dros 12 diwrnod gan gynnig cyfuniad o hyfforddiant ystafell ddosbarth a phrofiad ymarferol, gan gynnwys yr hyfforddeion yn ffilmio am bum diwrnod. Cafodd grŵp cynharach hyfforddiant ar gynhyrchiad drama Gymraeg BBC Studios, Anfamol, ym mis Hydref
Cefnogwyd pob hyfforddai yn llawn gan Bennaeth Adran profiadol, yn ogystal â derbyn cefnogaeth fugeiliol lawn gan Swyddog Gweithredol Hyfforddiant BBC Studios.
Meddai Aled Owen, un o hyfforddeion Academi Pobol y Cwm am ei brofiadau o'r cynllun:
"Mae Academi Pobol y Cwm yn cynnig cyfle i ddysgu o deledu hirdymor sy'n ffilmio drwy gydol y flwyddyn. Mae'n rhwyd diogelwch i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant, ac mae'n gyffrous iawn.
"Mae'n bwysig cael pethau fel Pobol y Cwm, a phethau newydd, sy'n digwydd cael eu lleoli yng Nghymru, fel bod cymeriad Cymru ar y sgrin i bobl ledled y byd eu gweld.
"Mae cyflymder proses ffilmio Pobol y Cwm wedi creu argraff arnaf. Mae'n anrhydedd cael arsylwi yn ystod yr academi hon, gan ddod i weld y gwaith anhygoel sy'n digwydd yma."
Dywedodd Kris Green, Swyddog Gweithredol Hyfforddiant BBC Studios:
"Mae wedi bod yn fraint gwirioneddol gweld yr hyfforddeion yn datblygu eu sgiliau drwy Academi Pobol y Cwm. Bydd y bobl ifanc greadigol hyn yn gorffen eu hyfforddiant gyda sgiliau a phrofiadau sy'n eu rhoi mewn sefyllfa ardderchog i ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach a pharhau i wneud cynnwys ysbrydoledig. Mae BBC Studios wedi ymrwymo i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dalent golygyddol a chynhyrchu ac mae Academi Pobol y Cwm yn enghraifft ddisglair o hynny ar waith."
Dywedodd Zoe Rushton, Swyddog Gweithredol Talent, Cynhyrchydd a Mentor Siop Un Stop / One Stop Shop:
"Mae'n bleser cefnogi menter mor gadarnhaol. Mae'r hyfforddeion wedi cael y cyfle prin i ddysgu mewn amgylchedd go iawn a datblygu sgiliau allweddol y gallant wedyn eu defnyddio yn y diwydiant sgrin ehangach yng Nghymru."
Dywedodd Sara Whybrew, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu'r Gweithlu y BFI:
"Fe wnaethon ni greu Clystyrau Sgiliau ledled y DU i sefydlu dull lleol o ddatblygu sgiliau a'r gweithlu. Rydym am sicrhau bod ein cyllid yn cefnogi partneriaid lleol sydd â'r arbenigedd a'r cysylltiadau â'u diwydiant lleol i ddarparu’r hyfforddiant gorau a pharatoi'r rhai sydd am ddechrau a datblygu gyrfaoedd yn y sector sgrin ar garreg eu drws.
"Dwi'n falch o weld llwyddiant rhaglenni fel Academi Pobol yng Nghymru, yn dod o ganlyniad i weledigaeth ac arweinyddiaeth y partneriaid niferus a ddaeth at ei gilydd i wneud iddo ddigwydd."
Nodiadau i olygyddion
Asiantaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yw Cymru Greadigol , a sefydlwyd i hyrwyddo a thyfu'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Ein ffocws yw cynnig cyllid, cymorth ac arweiniad ar draws ystod o sectorau o Ffilm a Theledu, Animeiddio – gan gynnwys Technoleg Trochi, AR/VR – i Gemau, Cerddoriaeth a Chyhoeddi - gan sicrhau mai Cymru yw un o'r lleoedd gorau yn y byd i fusnesau creadigol ffynnu.
Rydym yn angerddol am greu cyfleoedd i bobl yn y diwydiant. Boed hynny'n hyfforddiant lefel mynediad neu'n ddatblygu ac uwchsgilio pobl sydd eisoes yn gweithio yn ein sectorau creadigol. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, p'un a ydynt yn bobl ifanc, yn newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant neu'n aelodau o'n gweithlu talentog a phrofiadol.
O ddatblygu stiwdios i leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, datblygwyr gemau annibynnol a chynyrchiadau rhyngwladol mawr, rydym yn darparu cyllid, cyngor arbenigol ac yn helpu pobl yn y diwydiant i greu cysylltiadau a fydd yn meithrin datblygiad prosiectau creadigol o bob maint. Rydym hefyd yn hyrwyddo cynaliadwyedd, gwaith teg, a chyfle cyfartal i bawb sy'n gweithio ar draws ein sectorau creadigol.
P'un a ydym yn cefnogi talent cartref neu'n gweithio i ddenu prosiectau creadigol rhyngwladol i Gymru, ein nod bob amser yw cryfhau'r diwydiant yn y tymor hir a chreu cyfleoedd cyffrous a gwerth chweil i genedlaethau'r dyfodol.