English icon English

Achosion o ffliw adar ym Mhowys

Avian Influenza cases identified in Powys

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop, wedi cadarnhau presenoldeb haint Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 ar ddau safle masnachol gwahanol ym Mhowys - un ger y Drenewydd ac un ger y Trallwng.

Mae gan y ddau eiddo ffesantod ar y safle.

Mae Parth Gwarchod 3km, Parth Goruchwylio 10km, a Pharth Cyfyngedig 10km wedi’u datgan o amgylch y ddau safle sydd wedi’u heintio, er mwyn cyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd.

Yn yr ardaloedd hyn, mae symud adar a’u cynnull wedi’i gyfyngu a rhaid datgan unrhyw ddofednod sy’n cael eu cadw. Mae'r mesurau'n llymach yn y Parth Gwarchod 3km. Mae gwybodaeth lawn ar gael yma.

Mae hydref a gaeaf 2021/2022 wedi gweld niferoedd digynsail o achosion o ffliw adar yn Ewrop ac mae’r achosion hyn yn creu cyfanswm o bump o achosion mewn dofednod ac adar caeth eraill yng Nghymru.

Mae’r mesurau yn y Parthau Gwarchod, Goruchwylio a Chyfyngedig yn ychwanegol at ofynion bioddiogelwch a chartrefu, a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2021 fel rhan o’r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), sy’n berthnasol i Gymru a Phrydain Fawr gyfan. Mae'r AIPZ yn gorchymyn mesurau bioddiogelwch llym i atal feirws y ffliw adar sy'n cael ei gludo gan adar gwyllt rhag dod i gysylltiad ag adar cadw, drwy gartrefu neu rwydo adar er mwyn lleihau'r risg o ymledu'n uniongyrchol a mynnu mesurau bioddiogelwch llymach ar safleoedd.

Mae’r risg i iechyd y cyhoedd yn gyffredinol o’r ffliw adar yn isel iawn. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr, ac nid yw'n effeithio ar y defnydd o gynhyrchion dofednod, gan gynnwys wyau.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop:

“Mae’r achosion hyn o ffliw adar yng Nghymru yn destun pryder, ac mae tystiolaeth nad yw’r risg i’n hadar ni wedi lleihau.

“Rhaid i geidwaid adar fod yn wyliadwrus a sicrhau bod ganddyn nhw’r lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser i ddiogelu eich adar.

“Rwy’n annog pawb i wneud popeth o fewn eu gallu. Unwaith eto, adolygwch yr holl fesurau sydd yn eu lle a nodi unrhyw feysydd i'w gwella. Meddyliwch am risgiau o ddod i gysylltiad uniongyrchol ag adar gwyllt, yn enwedig adar dŵr a hefyd unrhyw beth a allai fod wedi’i heintio gan faw adar – dillad ac esgidiau, offer, cerbydau, bwyd anifeiliaid a’u gwely. Gwnewch welliannau lle gallwch chi i atal y clefyd dinistriol yma rhag lledaenu ymhellach o fewn ein poblogaeth o adar dof.

“Mae mesurau cartrefu mewn grym i warchod dofednod ac adar cadw, ond dim ond pan gânt eu cyfuno â gweithredu’r mesurau bioddiogelwch llymaf mae mesurau cartrefu’n effeithiol.

“Rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith am unrhyw amheuaeth o ffliw adar neu unrhyw glefyd arall y dylid rhoi gwybod amdano.”

Anogir aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw adar marw maent yn dod ar eu traws. Gellir casglu'r rhain i'w harchwilio ac ar gyfer goruchwylio’r ffliw adar, yn dibynnu ar y rhywogaeth a'r lleoliad.

Mae'n bwysig peidio â chodi na chyffwrdd unrhyw aderyn sâl neu farw. Rhowch wybod i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am adar gwyllt marw a chael gwared arnynt ar gael yn: https://gov.wales/report-and-dispose-dead-birds

Gellir dod o hyd i fap rhyngweithiol o’r parthau rheoli’r ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Prydain Fawr yma.

Nodiadau i olygyddion

Cyfrifoldebau pobl sy’n cadw adar

  • Dylai pawb sy'n cadw adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd, fel mwy o farwolaethau, gofid wrth anadlu, a bwyta neu yfed llai, neu gynhyrchu llai o wyau.
  • Ymgynghorwch â'ch milfeddyg i ddechrau os yw'ch adar yn sâl.
  • Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, mae'n rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am hyn. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad i glefyd gan filfeddygon APHA.
  • Rhaid i chi gadw dofednod dan do, a'u cadw ar wahân i adar dŵr fel hwyaid a gwyddau, yn adar cadw a gwyllt.
  • Rhaid i chi ddefnyddio mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, bwyd neu wely anifeiliaid a allai fod wedi'u llygru gan adar gwyllt rhag dod i'ch safle. Mae manylion llawn a rhestr wirio ar gael yma: https://gov.wales/biosecurity-and-preventing-disease-captive-birds

Cyngor ar gyfer y cyhoedd

  • Golchwch, ac os yw hynny’n bosibl, diheintiwch esgidiau a dwylo cyn gadael llefydd sydd â nifer fawr o adar dŵr – ee parciau a gwarchodfeydd adar
  • Rhowch wybod am adar marw (ond peidiwch â’u cyffwrdd).
  • Parhewch i fwydo adar yr ardd, gan weithredu mesurau diogelu hylendid sylfaenol fel golchi dwylo ar ôl cyffwrdd â gorsafoedd bwydo, a'u cadw'n lân.