Visit Wales - Crown Copyright - Aberaeron-2

Adolygiad o'r rheolau treth ar gyfer llety gwyliau i gefnogi twristiaeth a chymunedau lleol

Review on holiday let tax rules to support tourism and local communities

  • Adolygiad o'r trothwy gosod o 182 diwrnod i roi llais i fusnesau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ynghylch cyfeiriad y polisi yn y dyfodol.
  • Ceisir barn hefyd ar bum esemptiad newydd arfaethedig ar gyfer eiddo na ellid yn rhesymol eu defnyddio fel cartrefi parhaol.
  • Dywedodd y Gweinidog Cyllid: "Dw i wedi ymrwymo i gael y cydbwysedd cywir – cadw cartrefi yn ein cymunedau a rhoi i dwristiaeth y cymorth angenrheidiol i ffynnu."

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad deuddeg wythnos ar newidiadau i'r meini prawf a ddefnyddir i ddosbarthu eiddo hunanddarpar at ddibenion trethi lleol. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o'r trothwy gosod o 182 diwrnod.

Gall eiddo hunanddarpar fod yn destun ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor, ond dim ond os ydynt yn bodloni meini prawf gosod penodol.

Ers 1 Ebrill 2023, mae'r meini prawf wedi cynnwys gofynion bod yr eiddo ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod, a'i fod wedi'i osod am o leiaf 182 diwrnod yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried a yw'r trothwy o 182 diwrnod wedi'i osod ar y lefel gywir a pha effaith y gallai gostyngiad cymedrol ei chael.

Yn ogystal, cynigir pum esemptiad newydd ar gyfer eiddo hunanddarpar na ellid yn rhesymol eu defnyddio fel cartrefi parhaol.

Gallai'r mathau hyn o eiddo gynnwys eiddo sy'n rhan o fusnes ehangach, eiddo aml-uned mawr, eiddo sy'n destun cyfyngiad cynllunio perthnasol, eiddo o fewn cwrtil cartref y perchennog, ac eiddo ar fferm y perchennog.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:

"Roedd ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad i barhau i adolygu'r trothwy gosod o 182 diwrnod ac i greu esemptiadau newydd clir a rhesymol lle na fyddai llety hunanddarpar yn gymwys i fod yn gartref preifat.

"Dw i wedi clywed sylwadau gan nifer o fusnesau sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i'w heconomïau lleol ond nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy presennol.

"Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddod o hyd i ateb sy'n gweithio'n well i bawb, gan gynnwys busnesau, awdurdodau lleol ac ardaloedd lleol.

"Dw i wedi ymrwymo i gael y cydbwysedd cywir – cadw cartrefi yn ein cymunedau a rhoi i dwristiaeth y cymorth angenrheidiol i ffynnu."

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 31 Gorffennaf a 23 Hydref 2026, ac mae ar gael yma.