Allforion bwyd a diod o Gymru yn cyrraedd y lefel uchaf erioed
Welsh food and drink exports hit record high
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn 2021 gan gyrraedd £641m.
Cymru hefyd oedd â'r cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021 gan godi £89 miliwn, twf o 16.1%.
Y categori allforio gwerth uchaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru yn 2021 oedd Cig a Chynhyrchion Cig ar £187m. Yn y cyfamser, gwelodd Grawnfwydydd a Pharatoadau Grawnfwyd gynnydd o 173% o flwyddyn i flwyddyn, gan godi o £51m i £139m, ac fe gyrhaeddodd cynnyrch llaeth ac wyau adar £106m.
Mae'r cynhyrchion sy'n cael eu hallforio yn amrywiol, fel y mae'r amrywiaeth o wledydd y mae busnesau Cymru yn allforio iddynt.
Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru i'r UE yn werth £465m yn 2021, cynnydd o £51m ers 2020, gan gyfrif am 73% o'r cyfanswm.
Yn wir, roedd wyth o'r deg prif gyrchfan allforio bwyd a diod o Gymru o fewn yr UE, gyda'r ddwy wlad y tu allan i'r UE yn UDA a Saudi Arabia.
Gweriniaeth Iwerddon oedd y gyrchfan â'r gwerth uchaf o hyd ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru, sef £113m. Ymhlith y cyrchfannau uchaf eraill oedd Ffrainc (£100m), yr Iseldiroedd (£49m) a'r Almaen (£44m).
Bu cynnydd sylweddol mewn allforion i Wlad Belg a oedd yn werth £56m yn 2021, cynnydd o 162% o £21m yn 2020. Y categori gwerth uchaf i'r wlad yw Cynnyrch Llaeth ac Wyau Adar.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae'n newyddion gwych bod allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd eu gwerth uchaf erioed.
"Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn ac mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir gadernid a phenderfyniad ein cwmnïau o Gymru i lwyddo mewn marchnadoedd tramor.
"Mae'r diwydiant yng Nghymru hefyd yn arwain y ffordd o bedair gwlad y DU gyda'r cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod.
"Rwy'n falch bod Rhaglen Allforio Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i ehangu masnach mewn marchnadoedd newydd a phresennol mewn gwledydd ledled y byd."