English icon English

Arddangos bwyd môr Cymru mewn digwyddiad byd-eang arbennig

Welsh seafood on show at fin-tastic world event

Bydd pedwar o gwmnïau bwyd môr o Ogledd Cymru yn ceisio gwneud argraff yn nigwyddiad byd-eang mwyaf y diwydiant yn Barcelona yr wythnos nesaf.

Bydd arddangosfeydd o dros 80 o wledydd i’w gweld yn y Seafood Expo Global, sy’n cael ei gynnal rhwng 25 a 27 Ebrill. Bydd Ross Shellfish Ltd o Gaernarfon, South Quay Shellfish ac Ocean Bay Seafoods o Gaergybi a The Lobster Pot o Borth Swtan, yn cynrychioli Cymru.

Mae Barcelona yn ganolfan bwysig o ran bwyd môr Ewropeaidd, ac mae Seafood Expo Global yn dychwelyd am ail flwyddyn i Fira Barcelona Gran Via Venue.

Daeth dros 1,550 o fusnesau i arddangos eu cynnyrch i filoedd o weithwyr proffesiynol o’r sector yn nigwyddiad 2022. Roedd The Lobster Pot ac Ocean Bay Seafood yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw hefyd.

Mae’r stondin a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chydlynu gan Glwstwr Bwyd Môr Bwyd a Diod Cymru. Mae’r Clwstwr yn annog cydweithio ymysg y diwydiant bwyd môr. 

Bydd ymwelwyr â stondin Bwyd Môr Cymru hefyd yn cael blas ar yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, diolch i’r cogydd Harri Alun o westy enwog Carden Park Hotel.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch bod gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb unwaith eto yn y digwyddiad anferth hwn yn Barcelona, gan gyflwyno’r diwydiant yng Nghymru i gynulleidfa ryngwladol a chwsmeriaid newydd posibl.

“Mae Seafood Expo Global yn gyfle gwych i’r pedwar cwmni bwyd môr o Gymru i ddangos eu cynnyrch ardderchog i’r byd.

“Rwy’n dymuno’r gorau i Ross Shellfish Ltd, South Quay Shellfish, The Lobster Pot ac Ocean Bay Seafoods yn Barcelona.”

Dywedodd Julie Hill o The Lobster Pot: “Mae The Lobster Pot yn hynod o falch o fod yn bresennol yn rhan o Bafiliwn Cymru yn y Global Seafood Expo 2023 yn Barcelona. 

“Gyda’i natur gwirioneddol fyd-eang, mae’n ddigwyddiad arbennig o bwysig i ni.  Mae’n rhoi cyfle hanfodol i ni gyfarfod â chwsmeriaid, cwsmeriaid posibl, a chyflenwyr, a chael gwybodaeth bwysig am y farchnad sy’n golygu ein bod yn gallu parhau i arloesi yn y diwydiant bwyd môr yn y DU. 

“Wedi ein lleoli yn Ynys Môn, mae The Lobster Pot yn un o’r prif allforwyr yn y DU, gan ddarparu mynediad i farchnadoedd byd-eang ar gyfer cychod pysgod cregyn Cymru. 

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cyfle parhaus.”

Dywedodd Nia Griffith, Rheolwr Clwstwr Bwyd Môr Gogledd Cymru, “Mae’n wych cael dychwelyd i Barcelona i arddangos cynnyrch o’r radd flaenaf o Gymru.

“Eleni rydym yn dyblu nifer y busnesau bwyd môr o Gymru sydd ar ein stondin ac rwy’n sicr y bydd y gynulleidfa ryngwladol yn llawn edmygedd o’r hyn y byddant yn ei weld.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn atgoffa pysgotwyr a pherchnogion cychod yng Nghymru bod cyllid grant o £400,000 i’w cefnogi i addasu i amodau’r farchnad ar gyfer cynnyrch bwyd môr ar agor hyd at 12 Mai.

Mae Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn cael ei chydgyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd. Bydd Cynllun Costau Safonol y Gronfa yn cefnogi pysgotwyr a pherchnogion cychod i brynu offer o restr a benderfynwyd ymlaen llaw, am gostau safonol, fydd yn eu galluogi i ychwanegu gwerth at eu dalfa.

Dywedodd y Gweinidog: “Bydd y cyllid hwn yn bwysig i helpu pysgotwyr a pherchnogion cychod i addasu’n gyflym i amodau marchnad newidiol ar gyfer cynnyrch bwyd môr.

“Mae’r gronfa ar agor nawr hyd at 12 Mai ac rwy’n annog y rheini sydd â diddordeb ynddi i wneud cais i’r gronfa erbyn y dyddiad cau.”

Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa a sut y gellir ymgeisio ar:

www.llyw.cymru/cymorth-pysgodfeydd-gwerth-ychwanegol-cynllun-costau-safonol