English icon English
'Meet Fred' production in Japan - Hijinx Theatre-3

Artistiaid o Gymru'n swyno cynulleidfa yn Tokyo ar gychwyn taith ddiwylliant Cymru a Japan

Welsh artists wow Tokyo audience as Wales and Japan culture tour kicks-off

Mae grŵp o artistiaid blaenllaw a phwysigion diwydiant creadigol Cymru wedi cyrraedd Japan i roi hwb i gyfleoedd rhwng y ddwy wlad.

Mae dros 20 o ddigwyddiadau wedi'u trefnu, o Tokyo i Osaka, Oita a Hokkaido, gyda ymhlith eraill:

  • Gwenno, fydd yn canu caneuon o'i halbwm diweddaraf Utopia mewn gigs agosatoch,
  • Only Boys Aloud, fydd yn canu gyda chorau o Japan ledled y wlad,
  • Theatr Hijinx, fydd yn perfformio eu cynhyrchiad cynhwysol gwobrwyog, Meet Fred

Mae Cian Ciaran o'r Super Furry Animals hefyd yn ymuno â'r daith gyda'i ddehongliad newydd o chwedlau gwerin o Gymru ar bianos Yamaha sy'n chwarae eu hunain, hynny yn dilyn cyhoeddi ailffurfio'r grŵp a thaith.

I roi hwb i'r criw artistiaid, bydd cynrychiolwyr byd theatr, ffilm a llenyddiaeth yn ymuno â'r daith i sbarduno prosiectau cydweithio creadigol.

Mae'r daith yn rhan o Flwyddyn Cymru a Japan Llywodraeth Cymru sydd wedi cael nawdd partneriaid ledled Cymru gydol 2025 i gryfhau cysylltiadau busnes, chwaraeon a diplomyddol.

Meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:

"Mae'r daith gyfnewid diwylliannol cyffrous hon yn dod â'r gorau o Gymru i’r llwyfan rhyngwladol. Mae ein hartistiaid yn llysgenhadon dros greadigrwydd Cymru, ac yn rhannu ein treftadaeth gyfoethog tra'n ysbrydoli partneriaethau newydd â Japan.

"Bydd y cyweithiau hyn yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn cryfhau'r cwlwm rhyngom trwy iaith gyffredin y celfyddydau a diwylliant."

Dywedodd Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru, Elena Schmitz:

"Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio â Llywodraeth Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru i gyflwyno Rhaglen Ddiwylliannol Cymru Japan 2025. Mae cysylltiadau diwylliannol dwfn eisoes rhwng ein dwy wlad, ac mae'r prosiectau creadigol hyn yn cynnig ffordd bwerus o gryfhau a dathlu'r cysylltiadau hyn.

"Rydym yn noddi dros 20 o brosiectau mewn amrywiaeth o ffurfiau celf gwahanol ond pob un â ffocws clir ar les diwylliannol, cynaliadwyedd, cynhwysiant ac ieithoedd brodorol. Bydd yn gyffrous gweld y gweithgareddau hyn yn dod yn fyw yn ystod wythnos o ddigwyddiadau yn Osaka a Tokyo yr wythnos nesaf, a thu hwnt."

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker, yn cynnal trafodaethau fel y bu Cymru y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Cymru wedi bod yn gweithio gyda Japan i sicrhau bod penderfyniadau polisi a wneir heddiw yn diogelu buddiannau cenedlaethau yfory.

Nodiadau i olygyddion

The tour follows Wales Day at World Expo earlier this year, where Welsh Government injected efforts to increase economic ties.  

  • There are approximately 70 Japanese companies in Wales with around 7,200 employees. What’s more, Wales exported nearly £300m in goods to Japan last year. Panasonic has already announced a £20m investment in Wales as part of the Wales and Japan year.  

A £290,000 Wales Japan Cultural, led by Wales Arts International, the British Council, and the Welsh Government, is delivering a wide-ranging series of projects that reflect Wales’ deep commitment to cultural wellbeing and sustainability. 

From Tokyo to Osaka, Oita to Hokkaido, over 20 events and collaborations will showcase the breadth of Welsh creativity and the strength of its cultural connections and shared values with Japan. Highlights include: 

  • Hijinx Theatre’s award-winning inclusive production Meet Fred, touring Tokyo, Tottori and Osaka. 
  • Only Boys Aloud, Wales’ renowned youth choir, performing alongside Japanese choirs in Oita, Kitakyushu, Hiroshima and Tokyo. 
  • Gwenno, the trilingual Welsh-Cornish artist, presenting her latest album Utopia in intimate Tokyo performances. 
  • Cian Ciarán of Super Furry Animals reinterpreting Welsh folklore at teamLab Borderless Tokyo
  • A Creative Industries Showcase at the British Embassy Tokyo, featuring leaders from Wales’ film, TV, music and animation sectors. 
  • Literary collaborations, including bilingual children’s book projects and residencies with Parthian Books and Literature Across Frontiers. 
  • Sustainability-focused events, including SDG dialogues at Expo Osaka and the British Embassy Tokyo, led by Wales’ Future Generations Commissioner. 

The programme also features artist residencies, media innovation exchanges, and cultural showcases at major events such as the Hankyu British Fair in Osaka, where Welsh food and drink brands will be introduced to Japanese audiences. 

From experimental soundscapes and inclusive theatre to traditional crafts and digital storytelling, the Wales Japan Cultural Programme offers a unique opportunity to explore the creative energy and shared values that unite Wales and Japan. 

For full programme details and background on the Year of Wales and Japan:  

ENG Wales and Japan 2025 Media Pack | Wales  

JP 日本におけるウェールズ年“Year Of Wales and Japan 2025” メディアパック  | Wales 

For full details on the Wales Japan Cultural Programme:  

ENG WALES JAPAN 2025 CULTURAL PROGRAMME.pdf 

JP - ウェールズ・ジャパン 2025年 文化プログラム.pdf