Arweinwyr Cymru a’r Alban yn cyflwyno cynlluniau i gydweithio wrth lofnodi Cytundeb Caerdydd

Leaders of Wales and Scotland set out plans for collaboration with signing of Cytundeb Caerdydd - Cardiff Agreement

Heddiw, bydd Prif Weinidogion Cymru a’r Alban yn cyfarfod yng Nghaerdydd i lofnodi Cytundeb Caerdydd, gyda chynlluniau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gydweithio yn y dyfodol.

Mae’r ddogfen, y cytunwyd arni gan Rhun ap Iorwerth a John Swinney, yn cyflwyno diben a gweledigaeth a rennir i weithio gyda’i gilydd ar faterion o ddiddordeb cyffredin i’r ddwy wlad.

Bydd y cytundeb yn canolbwyntio ar y meysydd cydweithio canlynol: mynd i’r afael â thlodi plant a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd; mynd i’r afael â phwysau costau byw a gwella safonau byw; hybu twf economaidd; trefniadau cyllidol; cyllidol; mynd i’r afael â newid hinsawdd a chryfhau gwydnwch; meithrin cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys â’r UE; ac iaith, diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru:

“Mae’r cytundeb hwn heddiw yn nodi meysydd o ddiddordeb cyffredin y byddwn ni fel Prif Weinidogion a’n gwahanol lywodraethau yn cydweithio arnyn nhw yn y blynyddoedd sydd i ddod, i gryfhau democratiaeth a gwella canlyniadau i bobl Cymru a’r Alban.

“Mae taith gyfansoddiadol Cymru yn wahanol i daith yr Alban. Er hynny, mae’r ddwy wlad yn rhannu ymrwymiad i lywodraeth ddatganoledig gryf, sy’n atebol, ac i berthynas rhwng llywodraethau’r ynysoedd hyn sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch rhwng pob un â’i gilydd.

“Rydyn ni’n rhannu’r gred y dylai ein pobl benderfynu ar eu dyfodol nhw eu hunain, ac nad yw’r Undeb yn gwasanaethu’r naill wlad na’r llall yn deg. Byddwn yn defnyddio pob cyfle sydd ar gael inni i ddadlau’r achos dros fwy o degwch i Gymru a’r Alban ac am bwerau dros ein dyfodol cyfansoddiadol.”   

Dywedodd John Swinney, Prif Weinidog yr Alban:

“Mae llofnodi Cytundeb Caerdydd yn nodi moment bwysig yn hanes datganoli. Bydd yn gwella’r ffordd mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’i gilydd ar ein blaenoriaethau cyffredin. O ganlyniad, byddwn yn gallu cyflawni canlyniadau gwell i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.

“Mae’r Cytundeb yn adlewyrchu perthynas sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch rhwng y naill barti a’r llall. Bydd dal galw am ddulliau ar wahân o fynd i’r afael â materion, ond rydym yn rhannu nodau cyffredin ac ymrwymiad i ddysgu oddi wrth ein gilydd.

“Mae’r oes newydd o gydweithio sy’n cael ei chynrychioli gan lofnodi’r Cytundeb hwn yn seiliedig ar y gred rydym yn ei rhannu mai pobl yr Alban a Chymru sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain. Ddylai system y Deyrnas Unedig, nad yw’n gweithio ar gyfer ein gwledydd ni, ddim ein dal ni’n nol .”