Newyddion

Canfuwyd 23 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Welsh Government

Dysgu o'r haf a chydweithredu yn allweddol i atal tanau gwyllt yn y dyfodol, meddai’r Prif Weinidog cyn Uwchgynhadledd

Bydd y Prif Weinidog yn cynnull Uwchgynhadledd Newid yn yr Hinsawdd a Gwydnwch Cymru fore heddiw [22 Hydref], gan ddod â phartneriaid allweddol ynghyd i ddatblygu camau gweithredu ar gyfer y dyfodol yn sgil y tanau gwyllt a welwyd yng Nghymru dros yr haf.

Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth

Y Prif Weinidog yn galw am bartneriaeth economaidd newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Bydd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, heddiw yn galw ar Brif Weinidog y DU, Andy Burnham, i gytuno ar "bartneriaeth ar gyfer twf" newydd pan fydd y ddau arweinydd yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn.

Welsh Government

Dod i gytundeb ar y Gyllideb Atodol

  • Llywodraeth Cymru yn dod i gytundeb â Llafur Cymru ar fuddsoddiad pellach ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan olygu bod modd bwrw ati â’r Gyllideb Atodol ar gyfer 2026-27.
  • £60 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer ADY, fel rhan o becyn buddsoddi ehangach a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mehefin.
  • Y Gyllideb Atodol i gael ei gosod gerbron y Senedd ddydd Mawrth 13 Hydref a dadl i gael ei chynnal arni ar 3 Tachwedd.
FM Rhun ap Iorwerth and Cabinet - May 2026

Y Rhaglen Lywodraethu yn gosod "uchelgais newydd i Gymru"

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu newydd, sy'n nodi ei blaenoriaethau a'i chynlluniau dros dymor pedair blynedd y Senedd, yn dilyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

WG logo - press release header - white with logo

Cymru i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan

Ar 21 Hydref, bydd Prif Weinidog Cymru yn arwain y genedl mewn moment o fyfyrio i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan.

Welsh Government

Gostyngiad o 30% yn yr ardrethi busnes i leoliadau lletygarwch a hamdden ar y stryd fawr

  • Bydd amrywiaeth eang o leoliadau ledled Cymru yn gweld eu biliau ardrethi busnes yn gostwng 30% o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
  • Bydd busnesau bach a chanolig sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000 yn elwa, gyda'r newid yn cael ei ariannu'n llawn.
  • Y Prif Weinidog: Bydd hyn yn rhoi'r hyder i fusnesau "fuddsoddi, tyfu a pharhau i wasanaethu'r cymunedau sy'n dibynnu arnyn nhw."
Welsh Government

Arweinwyr Cymru a’r Alban yn cyflwyno cynlluniau i gydweithio wrth lofnodi Cytundeb Caerdydd

Heddiw, bydd Prif Weinidogion Cymru a’r Alban yn cyfarfod yng Nghaerdydd i lofnodi Cytundeb Caerdydd, gyda chynlluniau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban gydweithio yn y dyfodol.

FM Rhun ap Iorwerth and Cabinet - May 2026

"Ni fydd ein huchelgais i Gymru yn llai oherwydd heriau ariannol" – Prif Weinidog Cymru

Heddiw, bydd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth yn gwneud adduned na fydd pwysau ariannol "yn lleihau uchelgais y weinyddiaeth newydd hon i wella canlyniadau i bobl Cymru." 

Team Wales were given a warm welcome home at the Senedd today (Credit: Matthew Horwood)

Croeso mawr i arwyr Gemau'r Gymanwlad wrth ddychwelyd adref

Cafodd arwyr Tîm Cymru groeso cynnes heddiw (dydd Iau 6 Awst) yn ystod digwyddiad arbennig i anrhydeddu a dathlu llwyddiant y genedl yng Ngemau'r Gymanwlad.

Welsh and Scottish First Ministers  Prif Weinidog Cymru a'r Alban 240726

Prif Weinidogion Cymru a'r Alban yn addo cydweithio agosach

Cynhaliodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf gyda Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, heddiw, gan addo cydweithredu agosach rhwng eu llywodraethau wrth frwydro dros fargen decach i'w cenhedloedd gan San Steffan.