Cyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol yn gyfle i Brif Weinidog y DU brofi ei ymrwymiad i agenda o barch sy'n gweithio'r ddwy ffordd
National Economic Council opportunity for PM to show respect agenda works both ways
Bydd cyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol yn Glasgow heddiw (dydd Gwener 30 Hydref) yn "gyfle i Brif Weinidog y DU brofi ei ymrwymiad i agenda o barch sy'n gweithio'r ddwy ffordd", meddai Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Bydd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cymryd rhan yng nghyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol a hefyd yn cael cyfarfod dwyochrog â Phrif Weinidog y DU, Andy Burnham.
Bydd Mr ap Iorwerth yn herio Prif Weinidog y DU "i beidio â thanseilio'r Senedd a pheidio â thrin Cymru fel rhanbarth o Loegr."
Bydd hefyd yn pwyso'r achos dros roi'r un pwerau i Gymru ag sydd gan yr Alban, setliad ariannu tecach, gan gynnwys cyllid rheilffyrdd, a Phartneriaeth Twf newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i hybu ffyniant ym mhob rhan o Gymru.
Wrth siarad cyn y Cyngor Economaidd Cenedlaethol yn Glasgow, dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth:
"Dyma gyfle i Brif Weinidog y DU brofi ei ymrwymiad i agenda o barch sy'n gweithio'r ddwy ffordd. Mae hynny'n golygu addewid i beidio tanseilio'r Senedd, a pheidio â thrin Cymru fel rhanbarth o Loegr.
"Byddaf yn annog y Prif Weinidog i ymrwymo i ystod o fesurau i wella bywydau pobl Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cynnig Partneriaeth Twf newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU i roi hwb i ffyniant ym mhob rhan o'n gwlad, yn ogystal â setliad cyllido tecach a datganoli’r un pwerau a’r Alban drwy Fil Cymru newydd.
"Mae hyn hefyd yn golygu fod angen i Lywodraeth y DU anrhydeddu ei hymrwymiad o £14bn ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a hynny ar unwaith.
"Mae'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona yn neilltuol o gryf, a byddaf yn canolbwyntio ar y maes hwn yn fy nhrafodaethau gyda'r Prif Weinidog.
"Mae Cymru hefyd angen i Lywodraeth y DU symud yn gyflym i sicrhau y gallwn fwrw ymlaen â Cynnal – ein cynllun peilot taliad plant wythnosol i helpu'r teuluoedd tlotaf – heb unrhyw oblygiadau treth. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud yr wythnos hon fod trafodaethau ynghylch y mater hwn yn mynd rhagddynt, felly byddaf yn disgwyl addewid cadarn ar hyn yn sgil ein trafodaethau yn Glasgow."