“Dim ond y dechrau” medd y Prif Weinidog wrth i Lywodraeth newydd Cymru nodi chwe mis mewn grym
“Just the beginning” says First Minister as new Welsh Government marks six months in power
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn dweud mai “dim ond y dechrau” yw cyflawniadau ei lywodraeth yn ystod ei chwe mis cyntaf, a hynny wrth i Lywodraeth newydd Cymru nodi ei chwe mis cyntaf mewn grym.
Gwnaeth y Gweinidogion gyfarfod am y tro cyntaf fel Cabinet newydd Llywodraeth Cymru ar 18 Mai.
Ymhlith camau gweithredu’r Llywodraeth yn ystod y chwe mis cyntaf, mae’r cynllun gofal plant a ariennir i bob plentyn 2 oed bellach wedi’i ehangu, o ddim ond tri o’r 22 o awdurdodau lleol ym mis Mai, i 19 ohonynt erbyn hyn. Mae mwy o ddisgyblion ysgol uwchradd bellach yn cael prydau ysgol am ddim a bydd tocynnau bws am £1 i bobl ifanc yn parhau tan fis Mawrth.
Mae cysylltiadau trafnidiaeth wedi’u gwella, gyda gwasanaeth coetsys newydd rhwng gogledd a de Cymru yn cyflawni 10 taith bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin. Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar wella’r pontydd presennol dros y Fenai ac ar gynlluniau ar gyfer trydedd bont. Mae Llywodraeth newydd Cymru hefyd wedi ei gwneud yn glir bod mynd i’r afael â’r M4 o amgylch Casnewydd yn golygu y bydd angen gwella ffyrdd, comisiynu gwaith newydd i archwilio datrysiad peirianyddol, yn ogystal â lansio Cynllun Cyflawni Pum Mlynedd newydd ar unwaith.
Er mwyn cefnogi ein strydoedd mawr, bydd lleoliadau lletygarwch a hamdden yn elwa ar doriad parhaol o 30% i’w ardrethi busnes o fis Ebrill nesaf ymlaen. Mae ffermwyr hefyd wedi cael sicrwydd ariannol yn sgil ymrwymiad tair blynedd gwerth £1 biliwn i amaethyddiaeth gynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae £145 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y GIG, gyda chyllid ar gyfer sefydlu hybiau llawfeddygol newydd i helpu pobl i gael eu trin yn gynt. Mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ddoe, hefyd yn cynnwys cyllid ychwanegol gwerth £500 miliwn i’r GIG yn 2027-28, a £2 biliwn dros y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn cyfarpar, technoleg ac adeiladau’r GIG.
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:
“Ar ôl yr etholiad fis Mai, fe aethon ni ati’n syth i weithio ar ein cynllun penodol ar gyfer ein 100 diwrnod cyntaf yn y llywodraeth, gan osod y sylfeini i adeiladu arnyn nhw yn ystod tymor y Senedd hon.
”Ry’n ni wedi bod yn glir am ein prif flaenoriaethau - lleihau rhestrau aros, sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’n Gwasanaeth Iechyd, helpu teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da, codi safonau yn ein hysgolion, mynd i’r afael â thlodi plant a sefyll dros ein cenedl.
“Ry’n ni’n gwybod nad oes amser i’w wastraffu wrth ddefnyddio’r holl bwerau sydd gennyn ni i wella bywydau pobl yng Nghymru. Eleni, ry’n ni eisoes wedi cynyddu’r buddsoddiad mewn meysydd fel y Gwasanaeth Iechyd a gofal plant. Ddoe, fe wnaethon ni gyhoeddi ein Cyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn ein galluogi ni i ganolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar y materion sydd bwysicaf i bobl Cymru.
“Mae’r cyllid cyhoeddus ry’n ni wedi’i etifeddu yn parhau i fod yn heriol iawn, gyda thoriadau termau real mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, ond fydd hynny ddim yn taflu cysgod ar ein huchelgais i adeiladu Cymru well.
“Ond gadewch inni fod yn glir – mae gennyn ni lawer o waith i’w wneud dros weddill tymor y Senedd i gyflawni ein nodau. Ry’n ni wedi cyflawni llawer iawn mewn chwe mis, ond dim ond y dechrau yw hynny.”
Nodiadau i olygyddion
Key dates for Welsh Government this year:
7th May – Senedd election
12th May – Rhun ap Iorwerth elected First Minister
18th May – First Cabinet meeting of seventh Senedd term
26th August – 100th day – report published here
22nd September – New Programme for Government published
18th November – Draft Budget 2027-28 published