Newyddion

Canfuwyd 20 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Welsh Government

Cyhoeddi cymorth dros dro gyda chostau tanwydd ar gyfer gweithredwyr bysiau, cludiant i'r ysgol a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru

  • Bydd cynllun dros dro newydd yn helpu gweithredwyr bysiau, cludiant i'r ysgol a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru gyda chostau tanwydd eithriadol.
  • Bydd £7m yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleo er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn 2026-7.
  • Mae'r cynllun yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae costau tanwydd eithriadol o uchel ac anwadal yn eu rhoi ar weithredwyr bysiau, darparwyr cludiant i'r ysgol a gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru.
Chloe Thomas Headshot landscape-2

Annog menywod i ymuno â'r sector trafnidiaeth yng Nghymru

  • Mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y sector yn gyffredinol – dim ond 20% o weithlu Cymru a dim ond 6.7% o yrwyr a gweithredwyr
  • Mae'r sefyllfa wedi gwella – yn enwedig o ran recriwtio gyrwyr trên a phrentisiaid newydd gan Trafnidiaeth Cymru
  • Chloe, prentis peirianneg rheilffyrdd, oedd y fenyw gyntaf i fod yn brentis yn nepo Treganna Trafnidiaeth Cymru yng Nghaerdydd.
Mark Hooper landscape cropped

Llywodraeth y DU yn chwalu gweledigaeth rheilffyrdd Cymru

Mae addewidion gan Lywodraeth y DU i barchu ymrwymiad o £14 biliwn i unioni degawdau o danariannu'r rheilffyrdd wedi derbyn ergyd arall.

Welsh Government

Mae gwrthdrawiadau ac anafiadau ffyrdd yn parhau i ostwng wrth i'r terfyn 20mya gael effaith wirioneddol, meddai'r Dirprwy Weinidog

Mae'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, wedi croesawu ffigurau newydd sy'n dangos gostyngiad parhaus mewn gwrthdrawiadau ffyrdd ac anafiadau ledled Cymru, gyda gostyngiadau clir ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder 20mya a 30mya.

Taith Cymru coach-3

Lansio gwasanaeth coetsys newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin

  •  Coetsys TaithCymru yn lansio ddydd Sul 25 Hydref
  • Bydd 10 gwasanaeth dyddiol yn cysylltu Bangor a Chaerfyrddin – gydag estyniad hwyr y nos yn cysylltu Bangor â chysylltiadau rheilffordd a fferi Caergybi

  • Mae'r coetsys newydd sbon yn cynnwys Wi-Fi, seddi mynd yn ôl, aerdymheru, mannau i storio beiciau a chyfleusterau toiledau
Mark Hooper landscape cropped

Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau y gall rhwydwaith trafnidiaeth Cymru wrthsefyll newid hinsawdd

  • Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, wedi amlinellu cynlluniau i wneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn fwy gwydn i newid hinsawdd, mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn heddiw

  • Mae camau penodol yn cael eu cymryd ar y rheilffyrdd, bysiau, ffyrdd a phorthladdoedd

  • Bydd buddsoddi mewn trafnidiaeth yn y dyfodol yn cael ei lywio gan wersi wedi'u dysgu o'r tywydd eithafol diweddar, gyda'r nod o ddarparu rhwydweithiau sy'n garbon isel ac yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd
Mark Hooper landscape cropped

Cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai ac ateb sy'n seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd yn cael eu cyhoeddi heddiw

Mae cymeradwyaeth ar gyfer trydedd bont dros y Fenai ac ateb sy'n seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4, ynghyd â rhaglen o fesurau trafnidiaeth eraill, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Justin Williams with Deputy Minister for Transport Mark Hooper-5

Tocynnau bws am £1 i bobl ifanc i'w hymestyn tan fis Mawrth 2027

  • Mae cynllun tocynnau bws am £1 ar gyfer pobl rhwng 5 a 21 oed wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2027.
  • Mae ffigurau newydd yn dangos bod dros 9 miliwn o siwrneiau wedi'u gwneud o dan y cynllun ers ei lansio.
Deputy Minister for Transport Mark Hooper at the TrydaNi car sharing scheme in Aberystwyth 2-2

Clybiau rhannu ceir di-allyriadau yn ehangu ledled Cymru

  • Ar hyn o bryd mae cynllun rhannu ceir TrydaNi yn gweithredu 13 clwb ceir ledled Cymru, gyda mwy na 500 o aelodau
  • Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan £1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru
  • Lansiwyd clwb ceir Aberystwyth ym mis Rhagfyr 2024 ac mae ganddo 99 o aelodau
Deputy Minister for Transport Mark Hooper and Lord Burns meeting in Cardiff 17 August 2026-2

Dirprwy Weinidog yn cwrdd â'r Arglwydd Burns i drafod gwelliannau trafnidiaeth

  • Cyfarfu Mark Hooper, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, â'r Arglwydd Burns i drafod sut mae'r gwaith o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 a seilwaith rheilffyrdd newydd yn ne-ddwyrain Cymru yn mynd rhagddo
  • Cytunwyd ar ddatblygu perthynas waith bositif â Llywodraeth y DU, ac fe gyfeiriodd y ddau at y Bil Rheilffyrdd fel cyfle da i wneud cynnydd yn y maes hwn, er mwyn helpu i wella cymunedau ar hyd a lled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Deputy Minister for Transport Mark Hooper with a new TaithCymru coach in Bangor-2

TaithCymru – Gwasanaeth coetsys newydd i drawsnewid teithio rhwng y gogledd a'r de

  • Enw'r gwasanaeth coetsys newydd rhwng y gogledd a'r de fydd TaithCymru
  • Mae'r gwasanaeth yn dechrau ddydd Sul 25 Hydref rhwng Bangor a Chaerfyrddin
  • Cewch brynu tocynnau ymlaen llaw o 10am ddydd Mawrth 6 Hydref, drwy system archebu ar-lein