Cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai ac ateb sy'n seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd yn cael eu cyhoeddi heddiw
Plans for third Menai crossing and roads-based solution for M4 around Newport, announced today
Mae cymeradwyaeth ar gyfer trydedd bont dros y Fenai ac ateb sy'n seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4, ynghyd â rhaglen o fesurau trafnidiaeth eraill, wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Wrth annerch y Senedd, nododd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, gamau ymarferol a fydd yn cael eu cymryd nawr, ochr yn ochr ag atebion tymor hwy.
Pontydd dros y Fenai
Cadarnhaodd yr adolygiad o bontydd dros y Fenai fod gwydnwch yn parhau i fod yr her allweddol i gymunedau, busnesau a theithwyr ar Ynys Môn, ac ar draws gogledd Cymru, pan fydd cyfyngiadau ar bontydd neu pan fyddan nhw'n cael eu cau.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn tri maes:
- Ailddechrau gwaith datblygu ar unwaith ar gyfer trydedd bont dros y Fenai, gan gynnwys gwaith dylunio, asesu amgylcheddol, datblygu achosion busnes a chymeradwyaethau statudol.
- Buddsoddi parhaus mewn rheoli, cynnal a chadw a gweithredu'r pontydd presennol, i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn ddibynadwy.
- Buddsoddi mewn mesurau gwydnwch ymarferol ar Bont Britannia, gan gynnwys dargyfeirwyr gwynt, terfynau cyflymder amrywiol a gwelliannau gweithredol eraill i leihau tarfu a chadw traffig i symud.
Ystyriodd yr adolygiad hefyd system llif llanw tair lôn ar Bont Britannia, ond am fod y dystiolaeth yn nodi pryderon diogelwch a gweithredol sylweddol, ni fydd yr opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu.
Yr M4 o amgylch Casnewydd
Mae'r M4 o amgylch Casnewydd yn un o'r coridorau trafnidiaeth pwysicaf yng Nghymru, ac mae miloedd o bobl a busnesau yn dibynnu arni bob dydd. Canfu'r adolygiad fod tagfeydd yn parhau i achosi tarfu a theithiau annibynadwy, ac na all unrhyw ymyriad unigol ddatrys y broblem ar ei ben ei hun.
Fodd bynnag, ochr yn ochr ag amrediad o ymyriadau eraill, rydyn ni wedi dod i’r casgliad bod angen gwelliannau i seilwaith y ffyrdd. O ystyried yr amrediad cymhleth o opsiynau sy’n bosibl, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth 18 mis i amrediad o atebion ffyrdd ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, ac wedyn bydd yr opsiwn a ffefrir ar gyfer ateb sy'n seiliedig ar ffyrdd yn cael ei ddewis.
Yn ogystal, bydd rhaglen ymarferol o welliannau yn cael ei datblygu dros y pum mlynedd nesaf i ddarparu manteision tymor byr. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:
- Buddsoddi mewn adnewyddu a chynnal a chadw'r draffordd a seilwaith presennol y rhwydwaith ffyrdd strategol.
- Cynllun cyflawni i wella'r ffordd y mae'r draffordd yn cael ei gweithredu a'i rheoli, gwelliannau wedi'u targedu i ffyrdd a chyffyrdd o amgylch Casnewydd, a mesurau i wella gwydnwch cludo nwyddau drwy defnyddio llwybrau eraill fel yr A465 yn well.
- Buddsoddi parhaus mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys cefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru i gyflymu'r gwaith o gyflawni gorsafoedd Parcffordd Caerdydd a Magwyr a Gwndy, gwella mynediad i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren, a gwella cysylltiadau bysiau rhwng Casnewydd a Chaerdydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper
"Mae pobl eisiau gweld gweithredu, dim trafodaethau ddiderfyn. Maen nhw eisiau teithiau dibynadwy gyda llai o darfu, a hyder bod y Llywodraeth yn mynd ati i wella pethau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. A dyna'n union beth rydyn ni'n ei wneud.
"Byddwn ni'n cynnal astudiaeth 18 mis i ystyried amrediad o atebion sy'n seiliedig ar ffyrdd ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd. Fodd bynnag, i fynd i'r afael â'r tagfeydd presennol, sy'n mynd yn waeth, rydyn ni'n cymryd camau nawr i leihau traffig oriau brig ar yr M4 o amgylch Casnewydd hyd at un cerbyd o bob deg. Ar draffordd sydd eisoes yn llawn, neu'n orlawn ar yr adegau prysuraf, mae pob cerbyd llai ar y ffordd yn helpu.
"Mae pobl ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi aros am amser hir am ragor o sicrwydd ynghylch dyfodol y pontydd. Heddiw rydyn ni'n amlinellu cynlluniau clir wrth symud ymlaen, gyda gweithredu i wella gwydnwch y pontydd presennol wrth ddechrau ar unwaith ar waith i ddatblygu trydedd bont.
"Gyda'i gilydd dylai'r mesurau hyn wneud gwahaniaeth amlwg i bobl wrth iddyn nhw fyw eu bywydau bob dydd, gan ddarparu dewisiadau teithio gwell, gwydnwch gwell a theithiau cyflymach a mwy dibynadwy."