Mark Hooper landscape cropped

Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau y gall rhwydwaith trafnidiaeth Cymru wrthsefyll newid hinsawdd

Welsh Government takes action to climate-proof Wales's transport network

  • Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, wedi amlinellu cynlluniau i wneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru yn fwy gwydn i newid hinsawdd, mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn heddiw

  • Mae camau penodol yn cael eu cymryd ar y rheilffyrdd, bysiau, ffyrdd a phorthladdoedd

  • Bydd buddsoddi mewn trafnidiaeth yn y dyfodol yn cael ei lywio gan wersi wedi'u dysgu o'r tywydd eithafol diweddar, gyda'r nod o ddarparu rhwydweithiau sy'n garbon isel ac yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn gweithio gyda phartneriaid i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gallu gwrthsefyll pwysau hinsawdd yn y dyfodol a gwasanaethu pobl Cymru yn y ffordd orau posibl.

Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn yn gynharach heddiw [dydd Mawrth 13 Hydref 2026], dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:

"Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar Gymru, gan achosi hafau poethach a sychach, gaeafau twymach a gwlypach, cynnydd yn lefel y môr, a risg uwch o lifogydd, sychder a thanau gwyllt.

"Gan weithio gyda'n partneriaid, rydyn ni'n cymryd camau ymarferol i adeiladu system drafnidiaeth sy'n gallu gwrthsefyll pwysau yn y dyfodol a pharhau i wasanaethu pobl Cymru.

"Allwn ni ddim atal pobl math o darfu wedi'i achosi gan dywydd eithafol – ond gallwn ni baratoi yn well, cynyddu ein gallu i wrthsefyll newid hinsawdd ac ymateb yn gyflymach.

"Mae'n gwbl briodol bod pobl yn disgwyl i wasanaethau trafnidiaeth fod yno pan fydd eu hangen arnyn nhw, ac rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau bod ein rhwydwaith yn barod i ymdopi â hinsawdd sy'n newid."

Y Rheilffyrdd

Oherwydd y gwres eithafol yr haf hwn roedd rhaid tynnu rhai trenau oherwydd problemau gyda'u systemau oeri, roedd angen cyfyngu cyflymder, ac o ganlyniad bu pwysau ar wasanaethau bysiau, ffyrdd a llwybrau teithio llesol.

Mewn ymateb, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Network Rail i gryfhau ei systemau cynnal a chadw ac archwilio, gwella dibynadwyedd systemau oeri trenau, a chyflwyno monitro tywydd gwell fel y gellir lleihau problemau cyn iddyn nhw effeithio ar deithwyr.

Y Bysiau

Ar y bysiau, mae swyddogion yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru fel rhan o ymarfer masnachfreinio bysiau i ystyried llifogydd, gorboethi, tywydd garw a gwydnwch ynni, fel bod teithwyr a gyrwyr yn elwa ar gerbydau mwy newydd sy'n gallu ymdopi â thywydd eithafol yn well.

Y Ffyrdd

Ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, mae gwersi a ddysgwyd yn dilyn stormydd, llifogydd a thonnau gwres diweddar yn llunio sut mae ffyrdd yn cael eu rheoli a'u cynnal a chadw, gan helpu Cymru i baratoi'n well ar gyfer tarfu yn y dyfodol.

Cyn y gaeaf, mae stociau halen a graean yn cael eu monitro ledled y wlad, ac mae hyfforddiant ar wydnwch ac addasu'n cael ei gyflwyno ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol i helpu i reoli llifogydd, tirlithriadau ac effeithiau stormydd ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach.

Porthladdoedd

Mae prif borthladdoedd fferi Cymru, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro, yn darparu cysylltiadau rhyngwladol hanfodol ar gyfer pobl a nwyddau. Dangosodd y cyfnod hir o darfu yng Nghaergybi ym mis Rhagfyr 2024 pa mor bwysig yw ein porthladdoedd i gymunedau, busnesau ac economi ehangach Cymru, a pha mor gyflym y gall tarfu ar un porth strategol arwain at ganlyniadau ehangach.

Sefydlwyd Tasglu Môr Iwerddon mewn ymateb, i ystyried sut y gellid osgoi digwyddiad tebyg a sut y dylai partneriaid ymateb pe bai'r un peth yn  digwydd mewn unrhyw borthladd yng Nghymru.

Edrych tua'r dyfodol

Mae polisïau trafnidiaeth yn y dyfodol yn anelu at ddarparu rhwydweithiau sy'n wydn ac yn garbon isel, gan fuddsoddi mewn seilwaith a all wrthsefyll pwysau hinsawdd yn y dyfodol, wrth gefnogi'r trosglwyddo i sero net.

Mae gwersi o achosion o dywydd eithafol diweddar yn llywio cynllunio fel bod buddsoddi yn y dyfodol yn cael i baratoi'n well ar gyfer yr amodau hinsawdd a ddisgwylir yn y degawdau nesaf.

Mae hyn yn berthnasol ar draws rhaglenni buddsoddi trafnidiaeth, gan gynnwys seilwaith rheilffyrdd, bysiau, y Metro a ffyrdd.

Mae ymarfer gwydnwch yn cael ei baratoi dros y misoedd nesaf, gyda phartneriaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon, gan ganolbwyntio ar senario pe bai Porthladdoedd Cymru yn cael eu cau yn annisgwyl.