Cyhoeddi cymorth dros dro gyda chostau tanwydd ar gyfer gweithredwyr bysiau, cludiant i'r ysgol a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru
Temporary fuel-cost support announced for bus, school and community transport in Wales
- Bydd cynllun dros dro newydd yn helpu gweithredwyr bysiau, cludiant i'r ysgol a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru gyda chostau tanwydd eithriadol.
- Bydd £7m yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleo er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol yn 2026-7.
- Mae'r cynllun yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae costau tanwydd eithriadol o uchel ac anwadal yn eu rhoi ar weithredwyr bysiau, darparwyr cludiant i'r ysgol a gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru.
Mae cymorth dros dro a phenodedig er mwyn helpu gweithredwyr bysiau, cludiant i'r ysgol a thrafnidiaeth gymunedol ledled Cymru i ymdopi â chynnydd eithriadol mewn costau tanwydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw.
Bydd y cynllun Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau (BSSG) a Mwy gwerth £7m, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu gwasanaethau hanfodol drwy'r cyfnod eithriadol hwn o bwysau costau tanwydd a bydd hefyd yn amddiffyn teithwyr rhag cynnydd mewn prisiau.
Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu trwy awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod arian yn cyrraedd gweithredwyr cyn gynted â phosibl.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper:
"Rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae costau tanwydd eithriadol a pharhaus yn eu rhoi ar wasanaethau bysiau, cludiant i'r ysgol a thrafnidiaeth gymunedol ledled Cymru.
"Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu cysylltiadau hanfodol i gymunedau, gan helpu pobl i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, gofal iechyd a gwasanaethau hanfodol eraill. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a'r sector trafnidiaeth i ddeall y pwysau maen nhw'n eu hwynebu a'r effaith bosibl ar wasanaethau.
"Mewn ymateb, rydym wedi datblygu'r cynllun Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a Mwy, sef pecyn dros dro a phenodedig o gymorth sydd wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â phwysau costau tanwydd eithriadol a diogelu gwasanaethau hanfodol."
"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fonitro prisiau tanwydd ac yn gweithio'n agos gyda'r sector a llywodraeth leol."