Profiad realiti rhithwir yn helpu disgyblion i ddysgu gwersi hanfodol am ddiogelwch ar y ffyrdd
Virtual reality experience helps pupils learn vital road safety lessons
- Lansio adnoddau realiti rhithwir newydd ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd sydd wedi'u hanelu at yrwyr a beicwyr modur ifanc
- Ymwelodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, ag Ysgol Gymunedol Tonyrefail lle mae efelychydd beic modur yn profi dysgwyr ar eu hymwybyddiaeth o beryglon gan ddefnyddio teclynnau rheoli dilys a thechnoleg ymgolli
- Mae Ymgyrch Atal, a gyflwynir mewn partneriaeth â GanBwyll, yr heddlu a'r gwasanaethau tân ac achub, yn cyfuno sgwrsio â gyrwyr ar ochr y ffordd â sesiynau diogelwch mewn ysgolion i leihau gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper, ag Ysgol Gymunedol Tonyrefail ddydd Iau 24 Medi i lansio deunydd realiti rhithwir (VR) newydd ar ddiogelwch ar y ffyrdd, sydd wedi'i anelu at yrwyr ifanc.
Mae Ymgyrch Atal yn cynnal sesiynau diogelwch ar y ffyrdd mewn ysgolion ac yn sgwrsio â gyrwyr ar ochr y ffordd i'w helpu i ddeall y risgiau sy'n gysylltiedig â goryrru mewn cymunedau, pwysigrwydd gwregysau diogelwch, a'r peryglon o beidio â gosod seddi car i blant yn gywir. Ariennir yr ymgyrch gan Lywodraeth Cymru ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â GanBwyll, yr heddlu, a'r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi galluogi i bedair ffilm VR gael eu cynhyrchu - sydd wedi'u hanelu'n benodol at feicwyr modur a gyrwyr ifanc, dau grŵp y mae mwy na'u siâr yn ymddangos mewn ystadegau ar wrthdrawiadau ledled Cymru.
Trwy gyfuno senarios o fywyd go iawn ag adrodd straeon, nod y fenter yw dylanwadu ar ymddygiad, gwella ymwybyddiaeth o beryglon, ac yn y pen draw, lleihau nifer y gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol ar ffyrdd Cymru.
Yn ystod yr ymweliad, bu'r disgyblion a'r Dirprwy Weinidog yn cymryd rhan yn y profiad Alive Five VR, ac fe wnaethant ymuno â sesiwn drafod â'r heddlu ar ddefnyddio e-feiciau ac e-sgwteri yn anghyfreithlon. Ategwyd hyn gan arddangosfa o eitemau a atafaelwyd, ac fe wnaethant roi cynnig ar efelychydd beic modur a ddefnyddir i addysgu ac ennyn diddordeb beicwyr dibrofiad.
Mae'r efelychydd, sydd ar fenthyg i Gymru gan Heddlu Dyfnaint a Chernyw, yn defnyddio beic modur go iawn sy'n cael ei reoli drwy ddefnyddio meddalwedd i brofi ymwybyddiaeth beicwyr o beryglon. Mae ganddo declynnau rheoli go iawn, gan gynnwys brêcs, clytsh, sbardun a chyfeirwyr, i efelychu amodau go iawn ar y ffordd.
Amgylchynir y beicwyr, sy'n 16 oed a hŷn, gan sgriniau fideo integredig, a defnyddir dirgrynu, sain amgylchynol a drychau ystlys realistig, i roi profiad llwyr ymdrochol iddynt.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, y mae ef ei hun yn reidio Vespa trydan:
"Rwy'n falch o fod yma heddiw i weld sut mae technoleg arloesol yn cael ei defnyddio i helpu i addysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae realiti rhithwir yn rhoi ffordd ymdrochol i helpu pobl ifanc i ddeall risgiau, meithrin ymwybyddiaeth o beryglon a gwneud dewisiadau mwy diogel ar ein ffyrdd.
"Mae nifer anghymesur o yrwyr a beicwyr modur ifanc yn dal i fod yn rhan o wrthdrawiadau difrifol ar hyd a lled Cymru. Mae mentrau fel Ymgyrch Atal yn bwysig oherwydd eu bod nhw'n canolbwyntio ar atal, gan helpu pobl i adnabod y risgiau cyn i drasiedi ddigwydd."
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Tom Moore, Pennaeth GanBwyll:
"Mae'r adnoddau VR newydd hyn yn ffordd bwerus o ennyn diddordeb gyrwyr a beicwyr ifanc, gan eu helpu i adnabod risgiau a gwneud penderfyniadau mwy diogel. Mae addysg ac atal yn allweddol i wneud ffyrdd Cymru'n fwy diogel i bawb."
Mae gan bob un o dair ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru sbectol VR, sy'n helpu i sicrhau bod modd defnyddio’r adnodd ledled y wlad.