Swyddogion traffig ledled Cymru i gario diffibrilwyr achub bywyd
Traffic Officers across Wales to carry life-saving defibrillators
- Mae Achub Bywyd Cymru wedi cyfrannu 6 diffibriliwr allanol awtomatig (AEDs) ar gyfer cerbydau swyddogion traffig.
- Mae'r rhodd yn dilyn achub dyn a gafodd ataliad y galon yn Nhwnnel Conwy ym mis Awst 2023.
- Bydd y diffibrilwyr yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng gogledd a de Cymru i gwmpasu prif lwybrau, gan gynnwys yr M4, yr A55 a'r A470.
Gall Swyddogion Traffig ledled Cymru bellach gario diffibrilwyr yn eu cerbydau, ar ôl i Achub Bywyd Cymru gyfrannu 16 o ddiffibrilwyr allanol awtomatig (AEDs).
Mae'r rhodd yn dilyn digwyddiad yn Nhwnnel Conwy ym mis Awst 2023 lle achubodd Swyddogion Traffig a Heddlu Gogledd Cymru fywyd dyn ar ôl iddo ddioddef ataliad y galon.
Roedd Neville Owen, 64 oed, o Lanfairpwll yn Ynys Môn, yn gyrru adref pan gafodd ei daro'n wael wrth y llyw. Y Swyddog Traffig Travis Leon Kynaston oedd y cyntaf ar y safle a pherfformiodd CPR i gadw Mr Owen yn fyw nes i Gwnstabliaid Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, Duncan Logan a Huw Capper, gyrraedd gyda diffibriliwr ac ailgychwyn calon Mr Owen cyn i'r parafeddygon gymryd yr awenau.
I gydnabod eu gweithredoedd, cafodd y tri swyddog eu cydnabod yn un o seremonïau Achub Bywyd Cymru lle cawsant gwrdd Mr Owen eto, a chafodd yntau gwrdd staff yr ysbyty a fu'n gofalu amdano.
Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty bob blwyddyn. Am bob munud lle nad yw rhywun sy'n cael ataliad y galon yn cael CPR nac yn cael triniaeth gan ddiffibriliwr, mae eu siawns o oroesi yn gostwng 10%.
Dywedodd y Swyddog Traffig Travis Leon Kynaston:
"Fel Swyddogion Traffig, ni yw'r cyntaf i gyrraedd digwyddiadau yn aml, a gall cael diffibriliwr wrth law wneud byd o wahaniaeth. Pan wnaethon ni ymateb i'r digwyddiad yn Nhwnnel Conwy, roedd yn rhaid cadw Neville yn fyw nes i fwy o gymorth gyrraedd. Gyda'r offer newydd yma, byddwn yn fwy parod i ymdrin ag argyfyngau meddygol a darparu cymorth achub bywyd ar y ffyrdd."
Dywedodd Julie Starling, Rheolwr Rhaglen Clinigol OHCA ar gyfer Achub Bywyd Cymru:
"Datblygwyd y prosiect hwn gan Achub Bywyd Cymru mewn cydweithrediad â Traffig Cymru, yn dilyn adfer Neville Owen yn llwyddiannus yn Nhwnnel Conwy.
"Gwyddom y gall diffibrilio yn gynnar, o fewn y tri i bum munud cyntaf, gynyddu'r siawns o oroesi. Mae diffibrilwyr cymunedol yn syml i'w defnyddio, a thrwy roi'r dyfeisiau achub bywyd hyn yng ngherbydau Swyddogion Traffig, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i oroesiad ataliad y galon ar draws llwybrau allweddol yng Nghymru."