First Minister and Prime Minister 2

Y Prif Weinidog yn croesawu cynnydd ar fwy o bwerau cyllidol i Gymru yn dilyn trafodaethau gyda Prif Weinidog y DU

First Minister hails progress on more fiscal powers for Wales following talks with Prime Minister

Datganiad gan y Prif Weinidog

"Roeddwn yn falch o gyfarfod â’r Prif Weinidog yn Glasgow heddiw, lle pwysleisiais unwaith eto’r angen i Gymru a Llywodraeth Cymru gael yr offer angenrheidiol i wasanaethu ein cymunedau’n well.

"Fe wnes i ailadrodd hefyd mai mater i’r Senedd, a’r Senedd yn unig, yw unrhyw ddatganoli pellach o fewn Cymru.

"Roedd consensws calonogol bod angen diwygio, ar frys, y pwerau cyllidol a benthyca sydd ers cyhyd wedi rhoi Cymru dan anfantais o’i chymharu â chenhedloedd eraill y DU. Rwy’n croesawu sylwadau’r Prif Weinidog fod hyn bellach yn fater o sut a phryd, yn hytrach nag a ddylid gwneud hynny.

"O ran cyllid rheilffyrdd, roeddwn yn falch o glywed ymrwymiad personol y Prif Weinidog i edrych ar yr addewid o £14 biliwn. Codais hefyd yr angen i’r Trysorlys weithredu ar frys er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’n cynllun peilot taliad plant wythnosol Cynnal i gefnogi’r teuluoedd tlotaf.

"O ran Ewrop, cynigiais fy nghefnogaeth lawn i’r Prif Weinidog wrth geisio meithrin perthynas gryfach â’r Undeb Ewropeaidd, gan ei annog i fynd ymhellach a blaenoriaethu ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau."