English icon English

Atgoffa perchnogion i gadw eu cŵn dan reolaeth

Owners reminded to keep their dogs under control

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y tymor wyna, gydag ŵyn ifanc allan yn y caeau, mae perchnogion cŵn yn cael eu hatgoffa i gadw eu hanifeiliaid dan reolaeth o amgylch defaid a da byw eraill.

Mae cŵn sy'n poeni neu'n ymosod ar ddefaid ac ŵyn yn fater gofidus ac mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn gofyn i bawb sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu i fynd i'r afael ag ef.

Mae ymchwil wedi dangos bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â chŵn sy'n poeni neu'n ymosod ar ddefaid ar dir nad yw'n hygyrch i'r cyhoedd.

Mae'r Cod Cefn Gwlad, a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhoi canllawiau clir ar gyfrifoldeb perchnogion cŵn i gadw eu cŵn dan reolaeth effeithiol.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn neu mewn golwg bob amser a dylai perchnogion fod yn hyderus y bydd eu cŵn yn dychwelyd ar orchymyn.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid a da byw eraill yn fater rydym yn eu cymryd o ddifrif ac yn anffodus iawn, rydym yn parhau i weld achosion lle mae anifeiliaid yn cael eu hanafu yn wael neu eu lladd.

"Mae'r rhan fwyaf o berchnogion yn gwneud y peth iawn wrth reoli eu cŵn, ond mae 'na rai eraill sydd ddim.

"Mae'r costau - yn ariannol ac yn emosiynol - i'r rhai sy'n berchen ar anifeiliaid y maent yn dod o hyd iddyn nhw’n farw ac wedi'u hanafu yn gwbl annerbyniol, yn ogystal â'r goblygiadau o ran lles anifeiliaid.

"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).

"Rwy'n annog pob perchennog i sicrhau bod eu ci yn cael ei gadw dan reolaeth ac yn annog ceidwaid da byw i roi gwybod i'r heddlu am bob digwyddiad lle nad ydynt."

Dywedodd Cydlynydd Troseddau Bywyd Gwyllt a Gwledig Cymru, Rob Taylor: "Mae'r heddlu'n derbyn adroddiadau bod cŵn ledled Cymru yn ymosod ar ddefaid a da byw eraill yn rheolaidd, ac mae modd eu hatal yn llwyr.

"Rydyn ni'n gweld mwy na 300 o ymosodiadau'r flwyddyn gydag anifeiliaid yn cael eu niweidio’n ddrwg a'u lladd yn aml, yn ogystal â chŵn yn cael eu saethu neu eu ewthaneiddio a'r perchennog yn ymddangos gerbron y llysoedd.

"Mae perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn allweddol ac mae'n bwysig sicrhau bod anifeiliaid anwes dan reolaeth bob amser, neu os cânt eu gadael adref ar eu pennau eu hunain, bod y tŷ neu'r ardd yn ddiogel."

DIWEDD