English icon English

Bil Amaethyddiaeth cyntaf Cymru yn cael sêl bendith

First Wales Agriculture Bill gets the go-ahead

Mae Aelodau'r Senedd wedi pleidleisio o blaid y Bil Amaethyddiaeth cyntaf i gael ei lunio yng Nghymru. Bydd y Bil yn allweddol er mwyn cefnogi ffermwyr a chynhyrchu bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy am genedlaethau i ddod.

Bydd y Bil, a gafodd ei gyflwyno o dan arweiniad y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths, yn mynd ati bellach i geisio Cydsyniad Brenhinol, ac os caiff ei gymeradwyo, disgwylir iddo ddod i rym yng Nghymru yn ddiweddarach yn yr haf.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig fydd prif ffynhonnell y cymorth y bydd y Llywodraeth yn ei roi i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r Bil yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth yn y dyfodol, gan sicrhau ar yr un pryd y bydd cymorth yn dal i gael ei roi i ffermwyr yn ystod cyfnod pontio, gan adlewyrchu’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae hon yn foment bwysig i'n ffermwyr, ein sector amaethyddiaeth a Chymru gyfan. Hanfod y Bil yw rhoi cymorth i sector amaethyddol Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol

"Mae'r bleidlais heddiw yn golygu y gallwn ni bellach symud ymlaen i ddarparu system gymorth a ddatblygwyd yng Nghymru ac a fydd yn gweithio i Gymru, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn dechrau yn 2025.

"Ychydig wythnosau yn ôl, tynnodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd sylw at bwysigrwydd gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac mae’r Bil Amaethyddiaeth hwn, y cyntaf i gael ei lunio yng Nghymru, yn arf hanfodol er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd.

"Bydd yn fodd i sicrhau y byddwn ni’n gallu gweithio'n fwy effeithiol gyda'r sector i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, sef y bygythiad mwyaf i’n gallu i gynhyrchu bwyd yng Nghymru yn y tymor canol a’r tymor hir.

"Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi ffermwyr, a byddwn ni’n parhau i weithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn aros ar y tir i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy.

"Bydd Bil Amaethyddiaeth Cymru yn sicrhau bod tenantiaid amaethyddol yn gallu cael gafael ar gymorth ariannol ac na fyddan nhw’n cael eu cyfyngu’n annheg rhag gwneud hynny.

"Mae gwaharddiad llwyr yn y Bil ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud creulon, ac mae'n golygu mai ni fydd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad o'r fath.

"Mae hefyd yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 gan ddarparu pwerau i warchod bywyd gwyllt ac i ddiogelu’r amgylchedd yn well yn ystod gwaith i gwympo coed.

"Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i ddatblygu'r Bil: mae eu cyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi bod yn fodd i sicrhau ei fod yn cydnabod ac yn cefnogi blaenoriaethau Cymru."