English icon English

Bil nodedig yn gosod gweledigaeth feiddgar ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru

Landmark Bill sets bold vision for ending homelessness in Wales

Mae Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, 19 Mai) wedi cyflwyno Bil beiddgar ac uchelgeisiol sy'n anelu at drawsnewid ein hymateb i ddigartrefedd. 

Bydd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn newid ein system ddigartrefedd yn sylfaenol, felly mae'n canolbwyntio ar atal a darparu mwy o ddulliau o gefnogi pobl i gael cartrefi tymor hwy. 

Mae'r Bil yn canolbwyntio ar ymateb aml-asiantaeth i ddigartrefedd, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd.

Mae wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth a phrofiad byw y rhai sydd wedi bod yn ddigartref ac mae'n gam hanfodol tuag at gyflawni ein huchelgais hirdymor o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Ymhlith prif elfennau'r Bil:

  • Trawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru fel ei bod yn canolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynharach.  
  • Targedu gweithredu at y rhai sydd mewn perygl fwyaf. Yn benodol, darparu cyfle i roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc sy'n gadael gofal.
  • Canolbwyntio ar ymateb aml-asiantaeth i ddigartrefedd, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus Cymru at ei gilydd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: "Mae'r Bil hwn yn nodi trobwynt yn y ffordd y mae Cymru yn mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n falch o gyflwyno deddfwriaeth sydd nid yn unig yn newid systemau ond hefyd yn trawsnewid bywydau. 

"Mae pob person yn haeddu lle diogel i'w alw'n gartref, ac mae'r diwygiadau hyn yn dod â ni'n agosach at wneud hynny'n realiti ledled Cymru. 

"Rwy'n arbennig o falch am yr hyn y mae yn ei olygu i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Trwy ddod â thimau tai a gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd, byddwn yn sicrhau bod y bobl ifanc hyn - yr ydy ni'n gyfrifol amdanynt - yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. 

"Nid dyhead yn unig yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru - mae'n bosib ei gyflawni os ydym yn gweithio gyda'n gilydd i adnabod yr arwyddion cynnar a chamu i mewn gyda'r gefnogaeth gywir cyn i bethau fynd yn argyfwng. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r dulliau i ni wneud i hynny ddigwydd." 

DIWEDD