Blaenoriaethau Newydd ar gyfer Diwylliant i ganolbwyntio ar gyfleoedd i bawb
New Priorities for Culture to centre on opportunities for all
Mae Blaenoriaethau Newydd ar gyfer Diwylliant wedi lansio heddiw [dydd Mawrth 20] gyda ffocws ar gyfleoedd i bawb, waeth beth fo'u hoedran neu gefndir.
Mae'r blaenoriaethau newydd hyn yn cael eu cefnogi gan becyn buddsoddi gwerth £15m i gefnogi eu gweithredu ledled Cymru.
Wrth wneud y cyhoeddiad, cadarnhaodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, y bydd y cyllid - o'r Gyllideb Derfynol ddiweddar - yn cael ei rannu'n ddwy brif ffrwd:
- £8m ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru
- £7m o gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, y celfyddydau a'r amgylchedd hanesyddol
Dywedodd y Gweinidog,
"Rwy'n falch o gyhoeddi'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant heddiw, gan gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen ar gyfer Llywodraeth. Mae'r buddsoddiad hwn o £15m yn darparu cyllid hanfodol i gefnogi ein huchelgeisiau diwylliannol a bydd yn cael effaith sylweddol ledled Cymru."
Bydd y cyllid gwell yn cefnogi sawl blaenoriaeth allweddol, megis gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc; mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a darparu adnoddau i helpu'r sector i gyflawni sero net; datblygu sgiliau; gwella mynediad a gwella digidol.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Rwy'n hynod falch o'r sector diwylliant. Bob dydd, rwy'n dyst i bŵer cadarnhaol diwylliant. Mae hon yn weledigaeth a ddatblygwyd gyda'r sector ac ar ei chyfer, ac edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd i gyflawni'r Blaenoriaethau hyn."
Mae'r cyhoeddiad yn adeiladu ar gyflawniadau diweddar Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Cyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu fel Celf, oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru
- Symud ymlaen yn y gwaith o ailddatblygu Theatr Clwyd ac amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam
- Dyfarnu mwy na £5m ers 2022 i wneud casgliadau a mannau yn fwy cynhwysol
- Darparu bron i £3m o gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith brys yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, Caerdydd
- Buddsoddi dros £3.5m mewn gwasanaethau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol ers 2022
- Lansio cynllun grant Rheoli Casgliadau newydd, gan ddyfarnu dros £420,000 i wella safonau storio lleol a gofal casgliadau
Mae'r sector diwylliant eisoes wedi dechrau croesawu cyhoeddi'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.
Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru:
"Dychmygwch Gymru lle mae pob amgueddfa leol yn ganolfan fywiog ar gyfer dysgu, gwirfoddoli a darganfod diwylliannol. Mae'r ddogfen Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer sector diwylliant cysylltiedig, gan sicrhau bod y sefydliadau amhrisiadwy hyn yn gallu parhau i gyfoethogi bywydau ac adeiladu ymdeimlad cryf o 'gynefin' i bawb."