Blwyddyn arall o safonau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel i Gymru
Another year of high-quality bathing water standards for Wales
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ansawdd dŵr ymdrochi 2024, gan adlewyrchu'r ymdrechion parhaus i ddiogelu a gwella iechyd traethau a safleoedd ymdrochi mewndirol Cymru.
Sicrhaodd Cymru ganlyniadau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel yn 2024 gyda 108 o'r 110 safle dyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau.
Mae hyn yn golygu bod 98% o ddyfroedd ymdrochi dynodedig wedi cyrraedd safonau amgylcheddol llym am yr ail flwyddyn yn olynol. Cyflawnodd 75 o'r 110 safle safon dosbarthiad 'rhagorol'.
Ar gyfer 2024, mae'r canlyniadau'n dangos perfformiad cryf ar draws y rhan fwyaf o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru, gyda nifer drawiadol o safleoedd yn cynnal safonau ansawdd dŵr 'Rhagorol' a chynnydd yn nifer y safleoedd sy'n cyflawni statws 'Da'.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i waith ac ymroddiad anhygoel cymaint o bobl sy'n ymwneud â diogelu ein dyfroedd.
"Er ein bod yn dathlu'r cynnydd hwn, yn enwedig gyda chymaint o'n traethau o safon fyd-eang yn bodloni ansawdd 'Rhagorol', rydym yn parhau i ganolbwyntio ar y dyfodol. Ein nod yw nid yn unig cynnal y safonau uchel hyn ond gwthio ymhellach, gan sicrhau bod ein harfordir a'n dyfroedd mewndirol yn parhau i fod yn destun balchder i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd.
"Mae'r llwyddiant hwn yn tanlinellu pwysigrwydd ymdrech ar y cyd—gan gymunedau, cwmnïau dŵr, a phob partner—i adeiladu ar y sylfaen hon. Mae pob cam, waeth pa mor fach, yn cyfrannu at amgylchedd glanach, mwy diogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."