English icon English
Eluned Morgan (P)#6

Buddsoddi mewn myfyrwyr yw’r cam nesaf at gael ysgol feddygol yn y Gogledd

Investment in students is next step to a north Wales medical school

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn treulio eu cyfnod hyfforddi i gyd yng ngogledd Cymru fel rhan o’r camau i sefydlu ysgol feddygol yno.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Rydw i am roi cyfle i hyd yn oed fwy o fyfyrwyr astudio tra eu bod wedi’u lleoli yng nghymunedau’r Gogledd, oherwydd rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gofal mor agos â phosibl i gartrefi pobl.

“Gwyddom fod heriau wrth recriwtio staff yn y Gogledd, a dyna pam rydym am feithrin myfyrwyr meddygol sydd wedi’u haddysgu yma, a’u hannog i aros, yn gyntaf drwy Raglen C21 Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus, ac yn y tymor hirach drwy ysgol feddygol Gogledd Cymru.

“Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi adrodd yn ôl ataf i, a byddaf yn sefydlu Bwrdd Rhaglen i roi eu hargymhellion ar waith, a gweithio i sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y Gogledd.”

Mae rhaglen C21 Gogledd Cymru, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd, yn galluogi myfyrwyr i astudio ar gyfer eu gradd meddygaeth i gyd yn y Gogledd, gyda mwy o ffocws ar feddygaeth yn y gymuned ac ystod eang o leoliadau gwaith gan gynnwys blwyddyn lawn mewn meddygfa.

Eleni, bydd nifer y myfyrwyr ar y rhaglen yn ehangu o 20 i 25, ac i 40 o fyfyrwyr erbyn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor:

“Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r ffaith bod Rhaglen C21 Gogledd Cymru yn ehangu, gan adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus gyda Phrifysgol Caerdydd fel cam pwysig i gyflymu’r broses o sefydlu Ysgol Feddygol annibynnol sy’n cael ei harwain gan ymchwil ym Mangor ar gyfer Gogledd Cymru.”

Caiff rhaglen meddygaeth i raddedigion Prifysgol Abertawe hefyd ei hariannu i gynnig lle i 25 o fyfyrwyr yn ychwanegol yn 2021.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd:

“Mae’n wych clywed bod llwyddiant partneriaeth feddygol C21 Gogledd Cymru yn cael ei gydnabod ar ôl y gwaith caled y mae’r timau ym Mangor a Chaerdydd wedi’i wneud. Mae’r rhaglen bellach wedi’i sefydlu, gydag adborth gwych gan fyfyrwyr, a bydd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn parhau i feithrin capasiti ar gyfer addysg feddygol, mewn partneriaeth, i wireddu uchelgeisiau’r rhanbarth.”

Nodiadau i olygyddion

Health Minister Eluned Morgan is visiting Bangor University on Thursday 9 September from 12:45pm and meeting

  • Professor Iwan Davies; Vice Chancellor Bangor University
  • Dr Lynne Williams; Head of School and Reader, School of Health Sciences
  • Professor Mike Larvin, Executive Head School of Health Sciences

To interview the Minister and Vice Chancellor, contact Marie Concannon and Rachel Bowyer on: marieconcannon.rachelbowyer@gov.wales

Case studies:

Dr Esyllt Llwyd

Year 3 GP Tutor, 2020-21

“I can honestly say that having the student here enriches my general practice experience and hopefully that of my patients as well.”

Emily Viggers

Year 3 student

Emily chose to study on the C21 North Wales to help her strike the right work-life balance.  She has been on placement in Llanrug.  More on her experience of the C21 programme can be seen in this video

To arrange filming/interviews with Dr Esyllt Llwyd and/or Emily Viggers, contact Marie Concannon and Rachel Bowyer on: marieconcannon.rachelbowyer@gov.wales