Buddsoddiad gwerth £51m yng Nghasnewydd yw'r bennod ddiweddaraf yn stori lwyddiant lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru
£51m Newport investment latest chapter in Wales’ compound semiconductor success story
Mae cwmni Americanaidd mawr ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, Vishay Intertechnology, wedi cyhoeddi ei fod yn buddsoddi £51m yn Newport Wafer Fab - cyfleuster lled-ddargludyddion mwyaf y DU - gan ddod â galluoedd ystod o gynnyrch newydd a chyfleoedd ar gyfer swyddi medrus i Gasnewydd.
Mae'r buddsoddiad wedi cael ei gefnogi gan £5m o gyllid Llywodraeth Cymru a dyma'r diweddaraf mewn rhestr hir o newyddion da i glwstwr De Cymru – sy'n parhau i ddenu diddordeb a chydnabyddiaeth ryngwladol. Mae'r cynnydd diweddar yn cynnwys:
- ail gwmni o'r Unol Daleithiau, KLA, yn adeiladu ei bencadlys Ewropeaidd newydd ym Mharc Imperial, Casnewydd. Gyda buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith y grid ar y safle, mae'r datblygiad 215,000 troedfedd sgwâr, $100 miliwn yn creu canolfan arloesi a chyfleuster gweithgynhyrchu rhagorol a bydd yn cynnwys ystafelloedd glân ar gyfer ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu. Mae recriwtio hyd at 750 o weithwyr eisoes yn mynd rhagddo.
- Mae Centre 7, cyfleuster o'r radd flaenaf a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i Strategaeth Ryngwladol, eisoes yn denu mewnfuddsoddwyr gan gydnabod bod Cymru’n fan poblogaidd ar gyfer lled-ddargludyddion, gyda Microlink Devices a CS Connected y tenantiaid cyntaf ar y safle 51,000 troedfedd sgwâr ym Mhorth Caerdydd.
- Prosiect ymchwil sero net gwerth £2.5m yng Nghanolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Prifysgol Abertawe. Mae'n arloesi o ran lleihau allyriadau adeiladau ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion ac mae ganddo gytundebau ymchwil gydag aelodau diwydiannol fel Vishay, sydd â nifer o gyn-fyfyrwyr Abertawe ymhlith ei swyddogion gweithredol.
- Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd gynhadledd dechnegol ryngwladol fawreddog ym mis Hydref ar ddyfeisiau pŵer lled-ddargludyddion, a bydd Cymru'n croesawu taith o'r tu allan gan gwmnïau lled-ddargludyddion o Ganada yn y gwanwyn.
Gan groesawu cynnydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans:
“Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd o'n cwmpas ni i gyd – yn ein cartrefi ac yn ein ffonau, ein trenau a'n tyrbinau. Maent yn ddarn hanfodol, os yn fach, o'r hyn sy'n gwneud i'r byd modern droi, gydag amcanestyniadau twf byd-eang cryf iawn. Ac rydym ni yng Nghymru yn wlad sy'n arwain y byd yn fwyfwy o ran eu cynhyrchu a'u gweithgynhyrchu.
“Heddiw, mae hynny'n amlycach nag erioed, gyda'n henw da rhyngwladol yn denu mewnfuddsoddiad sylweddol, yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf a'u meddiannu, cysylltiadau clir ag Ymchwil a Datblygu a chyfleoedd sy'n talu'n dda ar gyfer cyflogaeth a phrentisiaethau.
“Rydyn ni nawr, ar ôl degawd o hau'r clwstwr, yn elwa ar ein hymrwymiad y byddwn ni'n parhau i'w sbarduno.”