English icon English

Buddsoddiad o £5 miliwn mewn prosiectau twristiaeth i wella profiad ymwelwyr

£5m investment in tourism projects will enhance visitor experience

Bydd prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn cael cyfran o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad er mwyn sicrhau bod y pethau pwysig yn iawn ar gyfer ymwelwyr.

Mae cronfa'r Pethau Pwysig yn werth £5 miliwn ac yn helpu gyda chynlluniau i wella seilwaith sy'n hanfodol ar gyfer ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth ar hyd a lled y wlad.

Wrth fynd ati heddiw (dydd Mercher 14 Mai) i gyhoeddi'r rhestr lawn o brosiectau a fydd yn elwa ar y Gronfa rhwng 2025 a 2027, nododd Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am dwristiaeth, Rebecca Evans, y rôl hanfodol y mae'r gronfa yn ei chwarae wrth sicrhau bod pob ymwelydd yn parhau i gael croeso cynnes yng Nghymru

Gan amrywio o gyfleusterau newid newydd ar Ynys y Barri i gabanau glampio yn Sir Gaerfyrddin a chyfleusterau parcio ar gyfer faniau gwersylla ar draws Sir Ddinbych, bydd y cylch cyllido diweddaraf yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £15 miliwn i'r gronfa Pethau Pwysig ers iddi gael ei sefydlu yn 2021.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r buddsoddiad sylweddol hwn mewn seilwaith twristiaeth wrth i ymgyrch ddiweddaraf Croeso Cymru – 'Blwyddyn Groeso' – barhau i rannu'n 'croeso' cynnes a'n 'hwyl' unigryw gyda'r byd.

"Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru, ond rydyn ni'n cydnabod bod mwy o ymwelwyr yn gallu rhoi pwysau ar seilwaith lleol weithiau, yn enwedig mewn cyrchfannau poblogaidd. Bydd y cyllid hwn yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau hynny a bydd, ar yr un pryd, yn cefnogi'n hymrwymiad i dwristiaeth gynaliadwy, gynhwysol.

"Drwy fuddsoddi yn y cyfleusterau sylfaenol ond hanfodol hyn, rydyn ni nid yn unig yn gwella profiad yr ymwelwyr ond hefyd yn cefnogi cymunedau lleol ac yn diogelu'n hamgylchedd naturiol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod."

Roedd y meysydd a gafodd flaenoriaeth yn y cylch cyllido hwn yn cynnwys lliniaru pwysau mewn mannau sy'n boblogaidd iawn gan dwristiaid, hyrwyddo cyrchfannau sy'n amgylcheddol gynaliadwy, gwella hygyrchedd, a gwella profiad cyffredinol yr ymwelwyr.

Bu Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld yn ddiweddar â Pharc Coffa Ynys Angharad ym Mhontypridd, a gafodd £288,000 o'r gronfa er mwyn creu man hygyrch yn y parc ar gyfer cynnal digwyddiadau.

Buddsoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn gweddnewid ardal nad oedd yn cael ei defnyddio ddigon, gan greu man deinamig ar gyfer cynnal digwyddiadau, sydd â llwybr hygyrch a gwell mynedfa.

Mae'r man hwnnw bellach yn cynnig lleoliad hyblyg ar gyfer digwyddiadau a pherfformiadau diwylliannol, gan ddarparu ar gyfer anghenion y gymuned ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu:

“Mae'n briodol bod cyllid Y Pethau Pwysig wedi'i gyhoeddi yn dilyn ymweliad â'r lle newydd i gynnal digwyddiadau ym Mharc Coffa Ynysangharad.

“Roedd y lle'n bosibl diolch i gyllid Y Pethau Pwysig yn y gorffennol ac mae wedi cael ei ddefnyddio, neu a fydd yn cael ei ddefnyddio, ar gyfer ystod o ddigwyddiadau cymunedol pwysig yn y parc, gan gynnwys Cegaid o Fwyd Cymru, coffáu Diwrnod VE ac, wrth gwrs, “yr Eisteddfod orau erioed” – a gynhaliwyd ym Mhontypridd yn 2024 ac a groesawodd ddegau o filoedd o bobl i'r parc, i siopau a bwytai Pontypridd ac i atyniadau ar draws ein bwrdeistref sirol.

“Rydym yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid o'r fath ar ran Rhondda Cynon Taf ac edrychwn ymlaen at y cyfleoedd y bydd Y Pethau Pwysig yn eu cyflwyno ar gyfer Parc Gwledig Cwm Clydach, yr ydym wedi sicrhau cyllid ar ei gyfer eleni.”