English icon English

Busnes yn mynd o nerth i nerth ar gyfer label ffasiwn siwtiau gwlyb wedi'u hailgylchu

Business going swimmingly for recycled wetsuit fashion label

Yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, mae dylunydd ifanc arobryn o Abertawe sy'n creu argraff gyda'i chasgliad ffasiwn yn annog eraill sydd â dyheadau busnes i ofyn am gymorth gan Busnes Cymru.

Sefydlodd Ffion McCormick Edwards Barefoot Tech mewn ymgais i fynd i'r afael â nifer yr hen siwtiau gwlyb nas defnyddiwyd sy'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Ers hynny mae wedi ennill nifer o gytundebau proffil uchel a gwobrau cynaliadwyedd, gan gynnwys y Wobr Cynaliadwyedd Trwy Arloesi yn y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol.

Lansiwyd y busnes gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, rhan o wasanaeth Busnes Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Yn hanu o deulu o sgiwyr dŵr brwd, lansiodd Ffion ei busnes i geisio lleihau effaith llygredd ar y môr. Mae hi'n creu cynnyrch gan ddefnyddio deunyddiau siwtiau gwlyb neoprene sydd wedi'u hadfer, y mae'n cael gafael arnynt o ysgolion syrffio, parciau tonfyrddio a chanolfannau gweithgareddau awyr agored ledled Cymru.

Mae rhai o'r siwtiau gwlyb yn dyddio'n ôl i'r 1980au ac wedi cael eu troi'n ategolion gan gynnwys bagiau cefn, bagiau bach a llyfrau nodiadau, gyda nifer o gynhyrchion Ffion yn ymddangos yn Wythnos Ffasiwn Llundain yn 2021.

Yn ddiweddar, dangosodd ffigurau newydd fod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed mewn gweithgarwch entrepreneuraidd, gydag entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn gweld cynnydd eithriadol.

Dywedodd Ffion fod y cymorth pwrpasol a gafodd gan Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn amhrisiadwy.

Ychwanegodd: “Byddwn yn annog unrhyw berson ifanc yng Nghymru sydd â syniad busnes - mawr neu fach - i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru.

“Rwyf wedi elwa'n fawr o'r cyfarfodydd un-i-un misol. Gallaf roi fy holl syniadau a chynlluniau ar y bwrdd a'u mowldio yn gynllun busnes cryf wythnos ar ôl wythnos. Wrth adael fy nghyfarfodydd rwyf wedi fy ysbrydoli bob amser ac rwy'n gosod mwy o nodau i mi fy hun.

“Fyddwn i ddim lle'r ydw i heddiw, yn gweithio'n llawn amser fel entrepreneur hunangyflogedig, heb eu cymorth.”

Bydd dros 100 o ddigwyddiadau yn cael eu cefnogi gan Busnes Cymru ledled Cymru yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, gyda'r nod o ysbrydoli pobl i lansio menter fusnes.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Rydym yn gweld tuedd hynod gadarnhaol yng Nghymru o ran entrepreneuriaeth ac mae'n wych cael y cyfle i ddathlu llwyddiannau cymaint o fusnesau ac unigolion, fel Ffion, sydd wedi gwneud busnes ffyniannus o syniad, gydag ychydig o help gan Lywodraeth Cymru. Pob clod i Barefoot Tech am darfu ar y diwydiant ffasiwn fel hyn, a chyda model busnes wedi'i wreiddio mewn cynaliadwyedd.

“Dyw hi byth yn rhy hwyr i wireddu eich syniadau a'ch dyheadau busnes ac mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i’ch helpu i wneud hynny - cysylltwch â ni!”

Nodiadau i olygyddion

  • Global Entrepreneurship Week 2024 runs from November 18-24.
  • Delivering on the Economic Action Plan, the Welsh Government is committed to developing an entrepreneurial culture in Wales. Part of the Business Wales Service, Big Ideas Wales raises aspirations and supports young people’s ambitions for business: Home | Business Wales - Big Ideas
  • https://www.barefoottech.co.uk/