Busnesau De-orllewin Cymru i ehangu gyda chymorth ariannol gwerth bron i £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop
South West Wales businesses to expand with nearly £4 million in Welsh Government and European funding support
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd gwerth bron i £4 miliwn yn helpu dau fusnes yn ne-orllewin Cymru i ehangu a diogelu eu gweithrediadau yn y dyfodol.
Bydd Wall Colmonoy Limited (UK) sy'n arbenigo mewn gweithgynhyrchu metelau aloi perfformiad uchel, yn defnyddio bron i £150k o gymorth gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i fuddsoddiad ehangach i uwchraddio ei safle castio metel, gweithgynhyrchu, peirianneg a dylunio.
Bydd y buddsoddiad yn helpu’r busnes ym Mhontardawe, sy'n cyflogi mwy na 200 o staff, i barhau'n gystadleuol hyfyw. Bydd hefyd yn rhoi mwy o sicrwydd o ran swyddi, gyda'r gwelliannau yng nghyfleuster castinau Wall Colmonoy yn lleihau eu hôl troed ar yr amgylchedd ymhellach.
Wrth siarad am y buddsoddiad gan Gronfa Dyfodol yr Economi, dywedodd Robert Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Wall Colmonoy Limited (UK): “Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn diogelu swyddi medrus iawn ym Mhencadlys Ewropeaidd Wall Colmonoy ym Mhontardawe. Mae’n sicrhau bod y cyfleuster yn bodloni arferion gorau o ran yr amgylchedd ac yn gwella ein capasiti a'n gallu.
“Mae'r buddsoddiad yn ein rhoi ar flaen y gad o ran technoleg toddi aloi cast ac yn ein helpu ysgogi twf arloesol er mwyn inni ymateb i’r cynnydd o ran y galw byd-eang am ein castinau. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd hirdymor i'r holl weithwyr a'r gymuned leol. Rydym yn falch o'n perthynas agos â Llywodraeth Cymru ac yn diolch iddynt am eu cefnogaeth barhaus dros yr hanner can mlynedd diwethaf.”
Mae SevenOaks Modular, yng Nghastell-nedd, hefyd yn ehangu ei gyfleuster gweithgynhyrchu oddi ar y safle, ar gyfer cynhyrchu tai, systemau panel a chyplau to ar gyfer y sector adeiladu.
Mae'n derbyn mwy na £900,000 mewn Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes drwy raglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd i helpu i adfywio rhan o'r hen gyfleuster gweithgynhyrchu “Metal Box” yng Nghastell-nedd. Bydd hyn yn cynyddu ei gapasiti cynhyrchu yn sylweddol. Hefyd, mae cymorth cyllid benthyciadau a ddarperir drwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i Gymdeithas Tai Tarian gwerth £2.8 miliwn yn hwyluso buddsoddiad yn y safle ac mewn peiriannau ar gyfer y busnes drwy bartneriaeth â'r gymdeithas dai. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosibl i fusnes Seven Oaks adeiladu a chynhyrchu mwy o gartrefi cymdeithasol oddi ar y safle.
Mae'r prosiect yn cefnogi nifer o nodau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys adeiladu mwy o gartrefi, datgarboneiddio a'r economi gylchol. Bydd hefyd yn sicrhau bod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyrraedd at hyfforddiant a chyflogaeth.
Gan siarad ar ymweliad â'r ddau fusnes, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru ac wrth i ni ddod allan o bandemig y Coronafeirws un o'm blaenoriaethau yw sbarduno adferiad economaidd Cymru, gan sicrhau ei fod yn dod yn beiriant ar gyfer twf cynaliadwy, gwyrdd.
“Mae SevenOaks Modular yn gwmni sefydledig sydd wedi'i angori yn y gymuned leol. Maent yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth, ac rwy'n falch iawn y bydd ein cymorth yn eu helpu i dyfu eu busnes a hyrwyddo eu huchelgeisiau datgarboneiddio ymhellach.
“Rydym hefyd yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi busnesau fel Wall Colmonoy Limited (UK) i arloesi a gwneud y defnydd gorau posibl o dechnoleg sydd ar flaen y gad. Bydd hyn yn parhau i fod yn allweddol wrth i ni ailadeiladu ac ailgodi economi Cymru ar ôl y pandemig.
“Ein nod yw adeiladu Cymru decach, sy’n wyrddach ac yn fwy ffyniannus. Mae ein cymorth i'r ddau gwmni llewyrchus hyn yn dangos hynny ymhellach. Bydd yn diogelu swyddi o safon rhag cael eu colli o ranbarth de-orllewin Cymru ac yn rhoi hwb hanfodol i'r economi leol ar adeg sy'n parhau i fod yn hynod heriol.”