English icon English
FM Presser Camera 1

Busnesau lletygarwch yng Nghymru i gau am 10pm i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws

Hospitality business in Wales to close at 10pm to tackle spread of coronavirus

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhaid i fusnesau  lletygarwch yng Nghymru gau am 10pm. Daw hyn wrth i fesurau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru i atal argyfwng newydd oherwydd y coronafeirws.

O ddydd Iau ymlaen, gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig y bydd busnesau lletygarwch yn cael ei gynnig, a bydd siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, yn gorfod rhoi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.

Mae’r mesurau newydd yn rhan o becyn o gamau gweithredu cydgysylltiedig sy’n cael eu rhoi ar waith ledled y Deyrnas Unedig i reoli lledaeniad y coronafeirws. Byddant yn dod i rym am 6pm ddydd Iau (24 Medi).

I helpu i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach, cyhoeddodd  Prif Weinidog y camau canlynol hefyd:

  • Taliad newydd o £500 i helpu pobl ar incwm isel os gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd bod y coronafeirws arnynt;
  • Rheoliadau cryfach i sicrhau bod cyflogwyr yn cefnogi pobl sy’n gorfod

Daw’r newidiadau yn dilyn cyfarfod o’r pwyllgor COBR, lle daeth cynrychiolwyr o’r pedair gwlad ynghyd dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU. Yn y cyfarfod hwnnw, trafodwyd cyfres o gamau gweithredu pellach – nifer ohonynt ar waith yn barod yng Nghymru - er mwyn ymateb i’r cynnydd yng nghyfradd drosglwyddo’r coronafeirws ledled y DU.

Wrth gyhoeddi’r mesurau newydd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi’u heintio â’r coronafeirws mewn gwahanol rannau o Gymru ac unwaith eto rydyn ni’n gweld pobl yn ddifrifol wael mewn ysbytai oherwydd y feirws hwn.

“Yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, mae’n bosibilrwydd go iawn y bydd y coronafeirws yn ailsefydlu ei hun yn ein cymunedau, ein trefi a’n dinasoedd. Does neb ohonon ni eisiau gweld hynny’n digwydd eto.

“Mewn rhai ardaloedd yn y De, lle mae’r cynnydd mwyaf mewn achosion, rydyn ni eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol, mwy caeth, i ddiogelu iechyd pobl. Mae angen inni wneud y gwahaniaeth hwnnw eto, ym mhob cwr o Gymru.

“Diolch i gymorth pobl Cymru, fe ddaethon ni drwy’r don gyntaf yn y gwanwyn – fe wnaethoch chi ddilyn yr holl reolau a helpu i leihau achosion o’r coronafeirws, diogelu’r Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau.

“Mae angen nawr i bawb ddilyn y rheolau a’r canllawiau a chymryd y camau i ddiogelu eu hunain a’u hanwyliaid. Gyda’n gilydd, fe allwn ni ddiogelu Cymru.”

Daw'r newidiadau wrth i gyfyngiadau lleol newydd ddod i rym ar gyfer pobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd.

Mae cyfres o fesurau a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Lloegr mewn grym yn barod yng Nghymru:

  • Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r rhai sy'n gallu gweithio gartref wneud hynny pan fo modd. Mae hyn wedi bod mewn grym ers diwedd mis Mawrth;
  • Mae gwisgo gorchudd wyneb yn ofynnol mewn mannau cyhoeddus o dan do – ac mae hynny’n berthnasol i gwsmeriaid ac i staff y mannau cyhoeddus hynny;
  • Yr unig rai y caiff pobl yng Nghymru gwrdd â nhw’n gymdeithasol o dan do yw’r bobl y maen nhw’n byw gyda nhw (eu haelwyd) ac aelodau eu haelwyd estynedig benodol (neu ‘swigen’). Ni chaiff mwy na chwech o bobl o’r un aelwyd estynedig, heb gynnwys plant o dan 11 oed, gyfarfod neu ymgynnull o dan do.