English icon English

“Bydd Rhaglen adnewyddedig i Ddileu TB yn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed yng Nghymru” – Y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths

“Refreshed TB Eradication Programme will build on positive progress made in Wales” - Rural Affairs Minister, Lesley Griffiths

Bydd Rhaglen adnewyddedig i Ddileu TB yn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed eisoes yng Nghymru sydd wedi arwain at ostyngiad o 48% mewn achosion newydd o TB ers 2009.

Dyma oedd neges y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wrth iddi lansio ymgynghoriad a fydd yn para 12 wythnos ar welliannau arfaethedig i’r rhaglen.

Mae’r Rhaglen Dileu TB yn nodi gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i ddileu TB buchol yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar bedair brif egwyddor rheoli clefydau heintus: Ei gadw draw; Ei ganfod yn gyflym; Ei atal rhag lledaenu; Ei ddileu.

Lansiwyd dull rhanbarthol o ddileu TB yn 2017 gan greu Ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel. Rydym wedi parhau i fireinio’r polisïau, gan ymateb ar unwaith i’r sefyllfa newidiol o ran y clefyd ac i’r heriau penodol sydd wedi deillio o bandemig Covid-19.

Mae’r ymgynghoriad sy’n cael ei lansio heddiw yn cynnwys cynigion ar:

  • Y rhaglen profi TB yng Nghymru i helpu i leihau ymhellach y risg o ledaenu TB megis protocolau profi yn benodol, ar hyn o bryd, mewn perthynas â’r Prawf Cyn Symud.
  • Prynu Gwybodus a’i nod i annog ceidwaid i ddarparu gwybodaeth TB am y gwartheg y dymunant eu gwerthu ac i geidwaid wneud penderfyniadau prynu doeth.
  • Taliadau ar gyfer gwartheg sy'n cael eu lladd o ganlyniad i TB, er mwyn sicrhau bod y system yn deg ac yn gymesur, ac yn adlewyrchu'r adnoddau ariannol sydd ar gael.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi y bydd trapiau moch daear a gwaith profi buchesi ag achosion parhaus o TB yn dirwyn i ben yn raddol o eleni ymlaen gan fod maint cyfyngedig y sampl a'r cyfnod dilynol byr yn golygu mai prin yw’r canlyniadau ystyrlon a geir i fesur effaith ymyriadau ar TB gwartheg.

Bydd gwaith ar ffermydd sy'n bodoli eisoes yn cael ei gwblhau ond ni fydd rhai newydd yn cael eu recriwtio i'r broses. Bydd y cyllid a fydd yn cael ei arbed yn sgil dirwyn y gwaith hwn i ben yn raddol yn golygu y bydd £100,000 ychwanegol ar gael i ddechrau ar gyfer ehangu’r gwaith o frechu moch daear ledled Cymru.

Yn ogystal, cynhelir adolygiad ar opsiynau i ategu'r capasiti milfeddygol ar gyfer profion TB drwy ddefnyddio mwy o staff parabroffesiynol sydd wedi'u hyfforddi a'u goruchwylio'n briodol.

Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen newydd yn ystyried y ffyrdd gorau o gyfathrebu â cheidwaid gwartheg, i'w helpu i ddiogelu eu buchesi, a hefyd drwy gydol achosion o TB. Byddant yn ystyried y rôl bosibl i Hyrwyddwyr Atal TB yng Nghymru a gofynnwyd i sefydliadau ffermio a milfeddygol enwebu aelodau i fod yn rhan o’r Grŵp hwn.

Mae hefyd yn fwriad parhau ag Arolwg Cymru Gyfan o Foch Daear a Ganfuwyd yn Farw i feithrin mwy o wybodaeth am y clefyd mewn moch daear.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae TB mewn gwartheg yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant ffermio ac mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein buchesi rhag y clefyd hwn.

"Rydym wedi gweld cynnydd da ers sefydlu ein rhaglen, gyda gostyngiad hirdymor yn nifer yr achosion a nifer y buchesi dan gyfyngiadau. Mae'r gostyngiad o 48% mewn achosion newydd o TB ers 2009 yn dangos bod ein rhaglen yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd a busnesau sy'n ffermio.

"Un o nodau allweddol ein Rhaglen yw’r gallu i adnabod heintiau'n gyflym, yn gywir ac yn gynnar, ac rydym yn ymdrechu i wella diagnosteg TB, croesawu ymchwil newydd a bod yn agored i brofion newydd, ar ôl iddynt gael eu dilysu.

"Mae cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, cymryd perchnogaeth a chydnabod bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn allweddol i lwyddiant ein Rhaglen."

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: "Rydym yn parhau i fod yn gyson yn ein hymrwymiad a'n penderfynoldeb i waredu Cymru o glefyd sydd ag ôl-effeithiau pellgyrhaeddol ledled diwydiant ffermio Cymru.

"O flwyddyn i flwyddyn rydym wedi gwella ein rhaglen ac wedi cyflwyno llawer o bolisïau sylfaenol a newidiodd y dirwedd TB ledled Cymru ac wedi gosod sylfeini ar gyfer y dyfodol.

"Rydym yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu brechlyn TB gwartheg y gellir ei ddefnyddio gyda phrawf i wahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi'u brechu erbyn 2025.

"Gall brechu gwartheg ddod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn y clefyd a byddwn yn trafod gyda'r Ganolfan Ragoriaeth TB i gynllunio sut i'w wneud yn y ffordd fwyaf priodol yng Nghymru."

Sefydlwyd Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018 gan ddod ag arbenigedd rhyngwladol ynghyd gyda'r nod o ddarparu tystiolaeth wyddonol sylfaenol i helpu i ddileu'r clefyd.

Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson, Pennaeth y Ganolfan ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Fe wnaethom gyfarfod â'r Gweinidog dros yr haf ac rydym wedi rhoi cyngor dros y misoedd diwethaf. Rwy'n falch o weld rhai o'n hargymhellion yn cael eu cynnwys yn natblygiad y rhaglen yn y dyfodol. Bydd y Ganolfan hon ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i ddarparu sylfaen wyddonol gref i Gymru ac yn ymgysylltu â'r holl randdeiliaid wrth i bob un ohonynt ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o fynd i'r afael â'r clefyd dinistriol hwn."

Caiff unrhyw un sydd â diddordeb ei annog i ymateb i’r ymgynghoriad yma: https://llyw.cymru/rhaglen-ddiwygiedig-ar-gyfer-dileu-tb-2021