English icon English
Vaughan Gething  (L)

Bydd technoleg lled-ddargludo cyfansawdd yn greiddiol i’r chwyldro diwydiannol nesaf yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Compound semiconductor technology sector will be at the heart of the next industrial revolution – Economy Minister Vaughan Gething

Yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, bydd y sector technoleg lled-ddargludo cyfansawdd yn greiddiol i’r chwyldro diwydiannol nesaf, ac yn hanfodol bwysig i economi Cymru.

Bu’r Gweinidog yn ymweld ag SPTS Technologies, yng Nghasnewydd, sy’n dylunio ac yn cynhyrchu’r cyfarpar prosesu haenellau, a ddefnyddir gan fusnesau sydd ar flaen y gad yn y sector lled ddargludo byd-eang.

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gydrannau hanfodol ar gyfer dyfeisiau fel yr Apple iPhone a thechnoleg fel Wi-Fi.

Mae SPTS Technologies yn un o bedwar cwmni angori, ynghyd â IQE, Newport Wafer Fab a Microchip, sy’n rhan o glwstwr lled-ddargludo cyfansawdd yn y De.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r buddsoddiad cychwynnol i ddatblygu’r clwstwr hwn yn 2015. Dyma’r catalydd a wnaeth Cymru yn ganolfan mwyaf blaenllaw yn y byd mewn arbenigedd ym maes lled-ddargludo cyfansawdd.

Mae busnes technoleg Rockley Photonics, gyda’i dechnoleg clinig ar yr arddwrn wedi cychwyn o hyn, ac wedi dewis defnyddio’r cyfleusterau penigamp sydd gan Newport Wafer Fab ac IQE.

Mae aelodau o’r clwstwr yn cynhyrchu refeniw o dros £600 miliwn y flwyddyn rhyngddynt, ac mae’r sector lled-ddargludo cyfansawdd a’r gadwyn gyflenwi yn gyffredinol, yn cyflogi dros 2,000 o bobl yng Nghymru.

Mae gan SPTS Technologies, enillydd gwobr uchel ei pharch, sef Gwobr y Frenhines am Fenter mewn Arloesi yn 2020, gynlluniau i ehangu ei fusnes yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n cyflogi 447 o bobl yn y Bencadlys yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi helpu i feithrin yr ecosystem lled-ddargludo cyfansawdd fwyaf blaengar yn y byd yng Nghymru. Mae’n rhwydwaith potensial uchel, sy’n troi ymchwil blaengar a gallu arloesol yn gynhyrchion Cymreig o safon byd-eang ar gyfer y marchnadoedd technoleg newydd, a’r rhai sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r dechnoleg hon – technoleg y genhedlaeth nesaf – yn siapio ein bywyd heddiw a bydd yn gwella ein profiadau yn y dyfodol – o gerbydau trydan, i dechnoleg adnabod wynebau ar ffonau clyfar a chymwysiadau gofod.

“Mae’r sector hwn o bwys mawr i Gymru, yn rhoi cyflogaeth o werth uchel ac yn atyniad go iawn i fuddsoddiad tramor uniongyrchol. Mae hefyd yn tynnu sylw at ddatblygiadau mewn llawer o ddiwydiannau eraill, ac rydym yn credu y gall gyflawni fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu, drwy ysgogi economi gryfach a gwyrddach, gan gyfannu at yr her datgarboneiddio sero-net.

“Rydym wedi buddsoddi mewn seilwaith er mwyn cysylltu darganfyddiadau academaidd a chymhwyso masnachol, wedi cefnogi cwmnïau i ddatblygu cynhyrchion arloesol ar gyfer marchnadoedd newydd ac wedi annog cydweithio trwy ein rhaglen Arloesi Agored.

“Mae SPTS, sydd yn weithredol ers 40 o flynyddoedd, yn dystiolaeth wych yn y maes cyffrous hwn ac rwy’n falch eu bod yn ehangu’r busnes yng Nghymru yn sylweddol. Rwy’n dymuno’r gorau iddynt yn y dyfodol wrth iddynt fod yn genhadon gwych i lwyddiant technegol y sector yng Nghymru.”

Dywedodd Oreste Donzella, Is Lywydd Gweithredol Corfforaeth KLA:

“Cyfrinach llwyddiant SPTS, sy’n gwmni KLA, yw ei ymrwymiad diflino i arloesi a chyflawni rhagoriaeth i’n cwsmeriaid.

“Rydym yn ysgogi datblygiadau yn barhaus ac yn ateb yr heriau sy’n wynebu’r sector lled-ddargludo cyfansawdd. Mae twf a llwyddiant SPTS nid yn unig yn rhoi cydnabyddiaeth fyd-eang i'n busnes, ond hefyd mae’n rhoi Cymru ar y map lled-ddargludo byd-eang. Bydd ein gweithlu ymroddgar yma yng Nghymru, ein llwyddiant parhaus a'n hymrwymiad i dwf ac ehangu yn sicrhau bod Cymru ac SPTS ar flaen y gad yn y chwyldro technolegol hwn.”