"Cadarnhaol, ond nid perffaith" meddai Kirsty Williams wrth i'r Gweinidog groesawu gwelliant yng nghanlyniadau PISA Cymru
“Positive, but not perfect” says Kirsty Williams as Minister welcomes Wales PISA improvement
- Cymru'n dal i fyny gyda'r cyfartaledd rhyngwladol ym mhob pwnc am y tro cyntaf.
- Sgoriau uwch i Gymru ym mhob un o'r tri phwnc ac felly mae’n symud i fyny am y tro cyntaf.
- Sgoriau gorau erioed mewn Darllen a Mathemateg, a gwelliant mewn Gwyddoniaeth
Heddiw croesawodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, welliant sylweddol yng nghanlyniadau PISA'r wlad.
Dywedodd:
Am y tro cyntaf erioed mae Cymru'n rhan o'r brif ffrwd rhyngwladol, diolch i ymdrechion ein hathrawon a'n myfyrwyr.
Rydym wedi dal i fyny, ac yn dal i wella ym mhob maes. Fel cenedl, rhaid i ni ymdrechu'n galed i gadw'r momentwm hwn.
Mae hyn yn gadarnhaol i athrawon, rhieni a myfyrwyr a hefyd i'r genedl gyfan, ond nid yw'n berffaith.
Gallwn fynd ymhellach.
Roedd Cymru'n un o 79 o wledydd a wnaeth gymryd rhan yng nghylch diweddaraf PISA, a gynhelir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
Yn dilyn canlyniadau 2015, gwnaeth y Gweinidog Addysg osod her i wella cyfran y dysgwyr sy'n perfformio orau.
Cynyddodd nifer y myfyrwyr sy'n perfformio i lefel uchel mewn Darllen o 3% yn 2015 i 7% yn 2018, a gwelwyd cynnydd tebyg mewn Mathemateg a chynnydd mewn Gwyddoniaeth hefyd.
Yn ogystal, gwelwyd gwelliant yn safle Cymru o gymharu â'r gwledydd eraill a gymerodd ran.
Aeth Kirsty Williams ymlaen i ddweud:
Mae'r newyddion heddiw'n gadarnhaol iawn i'n pobl ifanc a'n system addysg. Rydym yn dal i wella ym mhob maes, ac mae gennym fwy o berfformwyr uchel nag erioed o'r blaen.
Mae'r cynnydd yn nifer ein perfformwyr uchel yn gam mawr ymlaen. Mae'n newid mewn diwylliant i Gymru. Ond mae mwy ar ôl i'w wneud o hyd, gan nad ydym wedi cyrraedd cyfartaledd yr OECD yn yr agwedd hon eto.
Nid yn unig y mae ein sgoriau cyffredinol wedi wella, rydym hefyd wedi cau’r bwlch mewn cyrhaeddiad – gallwn fod yn falch iawn ein bod yn llwyddo i sicrhau cydraddoldeb a rhagoriaeth yng Nghymru.
Mae ein diwygiadau'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Mae ein Cenhadaeth Genedlaethol wedi cynllunio'r llwybr cywir, ac mae'r OECD yn ein hannog i symud ymlaen yn hyderus.
Dyma pam rydym yn gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed yn ein hathrawon, wedi datblygu'r rhaglen dysgu proffesiynol mwyaf erioed ac yn bwrw ymlaen gyda'n cwricwlwm newydd.