Cadarnhau achos o Ffliw Adar ar safle ar Ynys Môn
Avian Influenza identified at a premises on Anglesey
Mae Gosia Siwonia, Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Dros Dro Cymru, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 mewn dofednod ar safle ar Ynys Môn.
Dyma’r ail achos o o ffliw adar sydd wedi ei gadarnhau ar Ynys Môn y mis yma.
Mae Parth Gwarchod 3 cilomedr a Pharth Goruchwylio 10 cilomedr wedi'u datgan o amgylch yr adeilad heintiedig, i gyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd.
O fewn y parthau hyn, cyfyngir ar symudiadau adar ac adar yn ymgynnull ac mae’n rhaid datgan pob daliadaeth sy'n cadw adar. Mae'r mesurau'n llymach yn y Parth Gwarchod 3km. Gwybodaeth lawn ar gael yma:
Datganiad o Barth Gwarchod, Parth Gwyliadwriaeth Ffliw Adar: Ger Amlwch, Ynys Môn | LLYW.CYMRU
Mae'n hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf un o fioddiogelwch yn eu lle.
Mae asiantaethau iechyd y DU yn cynghori bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac yn ôl asiantaethau safonau bwyd y DU, mae ffliw'r adar yn peri risg isel iawn i ddefnyddwyr y DU o ran diogelwch bwyd.
Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli clefydau ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws Prydain i'w weld yma.
Dyma gyfrifoldebau pobl sy'n cadw adar:
- Dylai pob ceidwad adar sy'n cael eu cadw fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd fel mwy o farwolaethau, gofid resbiradol a gostyngiad o ran y bwyd neu ddŵr sy'n cael ei fwyta neu ei yfed, neu leihad yn nifer yr wyau a gaiff eu dodwy.
- Ymgynghorwch â'ch milfeddyg yn y lle cyntaf os yw eich adar yn sâl.
- Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, roi gwybod am hyn i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad clefyd gan filfeddygon APHA.
- Rhaid i chi ddefnyddio mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, porthiant neu wely adar a allai fod wedi'u llygru gan adar gwyllt rhag dod i'ch safle. Mae manylion llawn a rhestr wirio ar gael yma.