Cadw cŵn dan reolaeth i ddiogelu ŵyn ac anifeiliaid fferm
Keeping dogs under control will protect lambs and other livestock
Mae perchenogion cŵn yn cael eu hatgoffa i gadw eu hanifeiliaid o dan reolaeth pan mae yna ddefaid ac anifeiliaid fferm o gwmpas.
Mae’r tymor ŵyna wedi dechrau ac mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths a’r Cydgysylltydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Rob Taylor yn dweud ei bod hi’n bwysig bod perchenogion yn cadw eu cŵn ar dennyn neu o dan reolaeth drwy’r amser a theimlo’n hyderus y daw eu cŵn yn ôl o alw arnynt.
Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o achosion o gŵn yn ymosod neu’n aflonyddu ar ddefaid yn digwydd ar dir nad yw’n agored i’r cyhoedd.
Mae’r Cod Cefn Gwlad, a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhoi gwybodaeth glir i berchenogion cŵn ynghylch cadw eu cŵn o dan reolaeth.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rydyn ni i gyd wedi gweld y lluniau trist a thorcalonnus o gŵn wedi ymosod ar anifeiliaid fferm.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth iawn ac yn cadw rheolaeth ar eu cŵn, ond rydyn ni’n gwybod hefyd nad yw pawb yn gwneud.
“Mae’r costau emosiynol ac ariannol i berchenogion y da byw sy’n cael eu hanafu neu eu lladd gan gŵn yn gwbl annerbyniol, fel ag y mae’r effeithiau ar les yr anifeiliaid eu hunain.
“Mae’n hanfodol bod yn berchennog cyfrifol ar gi a thrwy gymryd y camau angenrheidiol, bydd ŵyn ac anifeiliaid fferm eraill yn ddiogel.”
Dywedodd Cydgysylltydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Llywodraeth Cymru, Rob Taylor: “Gwaetha’r modd, rydyn ni’n aml yn gweld achosion ledled Cymru o gŵn anwes yn aflonyddu ac yn ymosod ar dda byw. Trwy fod yn berchennog cyfrifol ar eich ci, gallwch osgoi hyn.
“Mae angen i berchenogion ddeall mai greddf naturiol ci yw rhedeg ar ôl anifeiliaid fferm a hyd yn oed ymosod arnyn nhw. Mae effaith hynny’n fwy enbyd yr amser yma o’r flwyddyn pan mae defaid yn feichiog neu ag ŵyn bach.
“Rydyn ni’n gofyn i berchenogion fod yn ymwybodol o’r peryglon ac i ddefnyddio synnwyr cyffredin, trwy fynd â’u cŵn i ardaloedd lle nad oes anifeiliaid fferm.
“Mae’n bwysig iawn deall y gallai ymosodiad ar dda byw, er yn anfwriadol, arwain at saethu’r ci neu ei ladd trwy orchymyn llys. Does neb am i hynny ddigwydd.”