Caerffili yn 'enghraifft wych' o gynllun adfywio canol tref
Caerphilly ‘fantastic example’ of town centre revitalisation
Mae Cynllun Creu Lleoedd Caerffili 2035 yn cynnwys cynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol i wella ac adfywio ardal Caerffili ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili allu nodi cyfleoedd i annog twf a gwella canol y dref.
Mae mwy na £350,000 wedi'i neilltuo trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi comisiynu Cynllun Creu Lleoedd Caerffili 2035 a dwyn ynghyd y sgiliau a'r arbenigeddau sydd eu hangen i gynnal yr amrywiaeth o brosiectau.
Mae Trawsnewid Trefi yn darparu cymorth i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru, i greu ymdeimlad o le a chymuned lle mae pobl yn byw, gweithio, siopa ac astudio.
Ar daith ddiweddar o amgylch canol tref Caerffili, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Mae Caerffili wir yn enghraifft wych o sut y gall awdurdodau lleol ddefnyddio ein Rhaglen Trawsnewid Trefi i adfywio canol trefi a dinasoedd a chreu ymdeimlad o le i'w cymunedau.
"Mae ein buddsoddiad wedi helpu Caerffili i gadw ei marchnad yng nghanol y dref yn sgil agor Ffos Caerffili, gan annog mwy o ymwelwyr a theithio llesol yn yr ardal.
"Dwi mor falch ein bod wedi gallu neilltuo'r cyllid llawn ar gyfer comisiynu'r Cynllun Creu Lleoedd sy'n cefnogi cymaint o brosiectau gwerth chweil eraill yng Nghaerffili."
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ymweld hefyd â nifer o brosiectau sy'n cael nawdd y rhaglen Trawsnewid Trefi, gan gynnwys bloc masnachol o fflatiau ar Stryd Pentre-baen.
Mae'r safle adfeiliedig yng nghanol tref Caerffili o fewn pellter cerdded i'r brif stryd siopa a'r orsaf drenau.
Cynigir caffael ac ailddatblygu'r adeiladau i greu datblygiad defnydd cymysg sy'n cynnwys cartrefi iach a rhad ar ynni, uned hybu busnes, gofod ar gyfer digwyddiadau ac unedau byw/gweithio.
Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei blaen: "I gynllun adfywio lwyddo, rhaid wrth bartneriaeth a dwi'n disgwyl ymlaen at weld sut mae ein partneriaid yng nghanol y dref yn defnyddio'r cyllid i ddatblygu ac adfywio eu cymunedau yn strategol i greu strydoedd siopa byrlymus a thwf cynaliadwy hirdymor."
DIWEDD