Canlyniadau Safon Uwch: Y Gweinidog Sgiliau yn llongyfarch dysgwyr
A Level results: Skills Minister congratulates learners
- Mae dysgwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, Safon UG, Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru a chymwysterau galwedigaethol.
- Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi llongyfarch pawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw.
- Cafwyd canlyniadau Safon Uwch cryf eto eleni, gyda chynnydd ym mhob gradd allweddol o gymharu â’r llynedd a chynnydd nodedig o gymharu â 2019.
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru wrth i ddysgwyr Safon Uwch, AS, Bagloriaeth Uwch Cymru a chymwysterau galwedigaethol dderbyn eu canlyniadau y bore yma.
Cafwyd canlyniadau Safon Uwch cryf unwaith eto eleni, gyda chynnydd ym mhob gradd allweddol o gymharu â’r llynedd a chynnydd nodedig o gymharu â 2019. Yn ogystal, gwelwyd cynnydd yn nifer y cofrestriadau Safon Uwch a Safon UG yng Nghymru eleni o gymharu â 2025.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Choleg Sir Benfro yn Hwlffordd y bore yma, lle cyfarfu â myfyrwyr yn casglu eu canlyniadau. Dywedodd:
"Llongyfarchiadau i bawb sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw. Fe ddylech fod yn hynod falch o'r hyn 'dych chi wedi'i gyflawni. P'un a ydych chi'n mynd i'r brifysgol, am ddilyn prentisiaeth, yn dechrau mewn cyflogaeth neu'n ystyried eich camau nesaf, mae digon o gyfleoedd cyffrous o'ch blaenau. Dw i hefyd eisiau cydnabod y gefnogaeth ddiwyro gan athrawon a staff addysg y mae eu hymdrechion wedi chwarae rhan hanfodol yng nghamp y dysgwyr hyn."
Os nad yw'ch canlyniadau yn union yr hyn yr oeddech chi'n gobeithio amdano, cofiwch nad ydyn nhw'n diffinio eich dyfodol ac nad dyma ddiwedd y ffordd. Mae yna lawer o opsiynau yn agored ichi, ac mae cymorth ar gael drwy Cymru'n Gweithio, rhan o Gyrfa Cymru, eich ysgol neu'ch coleg, i'ch helpu i ddod o hyd i'r llwybr sy'n iawn i chi.
"Pob lwc a mwynhewch weddill eich haf."
Bydd canlyniadau TGAU eleni yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau nesaf, 20 Awst.